Gweminar: Cefnogaeth Iechyd Meddwl – Paratoi Eich Cymuned ar gyfer Heriau Ionawr - Un Llais Cymru
Mynd i'r cynnwys

Dydd Gwener 12 Rhagfyr 11yb – 1yp

Mae Ionawr yn aml yn fis anodd i drigolion: mae biliau’n ddyledus, mae trefn arferol yn dychwelyd, ac mae tywydd oer yn gallu dwysáu heriau iechyd meddwl ac unigrwydd. Gyda llawer o wasanaethau ar gau dros y Nadolig, mae cynllunio’n gynnar yn sicrhau bod cefnogaeth ar gael yr eiliad y bydd ei hangen.

Ymunwch â’r gwe-sgwrs ymarferol hwn i archwilio ffyrdd cost isel y gall eich cyngor gefnogi trigolion dros y gaeaf. Gyda mewnwelediadau gan y Samariaid ar effaith iechyd meddwl ar draws cymunedau Cymru, a Chyngor Dinas Bangor ar sut mae eu canolfan gymunedol newydd yn helpu pobl leol gyda materion ariannol, cymdeithasol ac iechyd a lles.

I gofrestru ar gyfer y gweminar hwn, cliciwch yma.