Cynadleddau a Digwyddiadau
Cynhadledd Arfer Arloesol

Rydym yn trefnu Cynhadledd Arfer Arloesol genedlaethol bob mis Gorffennaf.
Isod mae rhagor o wybodaeth am ein Cynhadledd Arfer Arloesol flynyddol a sut i gymryd rhan.
Cynhadledd Arfer Arloesol 2025
Cynhaliwyd ein Cynhadledd Ymarfer Arloesol 2025 yn Llanfair-ym-Muallt ddydd Mercher 2 Gorffennaf.
Teitl cynhadledd eleni oedd: ‘Cynllunio ymlaen llaw ar gyfer dyfodol heriol’.
Rydym yn falch o gyhoeddi mai Civic.ly oedd ein Prif Noddwyr Cynhadledd ar gyfer digwyddiad eleni ac rydym yn hynod ddiolchgar am eu cefnogaeth a’u brwdfrydedd.

Isod mae copi o Agenda’r Gynhadledd:
Dyma gopi o’n Datganiad i’r Wasg:
Os oes gennych ddiddordeb mewn noddi, arddangos, cyflwyno neu siarad yn y Gynhadledd Arfer Arloesol
eleni, Cysylltwch â Ni cyn gynted â phosibl i drafod y Cyfleoedd sydd ar gael neu i siarad ag un o’r tîm.
Cynhadledd Arfer Arloesol 2024
Roedd cynhadledd 2024 yn ymwneud ag arfer arloesol, a’r teitl oedd “Mynd i’r afael ag anghenion amrywiol ein cymunedau.” Anogodd Cadeirydd Un Llais Cymru y cynadleddwyr i roi eu cymunedau’n gyntaf, blaenoriaethu trigolion drwy wrando ar eu hanghenion, dysgu am yr arfer da a ddarperir ledled Cymru a hyrwyddo’r profiadau hynny o fewn eu cymunedau.
Isod mae copi o’n Hadroddiad Cynhadledd Arfer Arloesol 2024.
Cynhelir ein Cynhadledd Arfer Arloesol 2025 ar 2 Gorffennaf 2025. Arbedwch y dyddiad!
Cysylltwch â ni os hoffech gymryd rhan yn nigwyddiadau Gwobrau Cenedlaethol yn y dyfodol neu os hoffech noddi’r digwyddiad/gwobr, neu gael stondin arddangos yn y digwyddiad cenedlaethol mawr hwn.