Gwasanaeth
Adroddiad Blynyddol
Adroddiad Blynyddol
Yn Un Llais Cymru, rydym yn cynhyrchu adroddiad blynyddol sy’n disgrifio ein heffaith a’n cyflawniadau.
Mae ein hadroddiadau yn crynhoi ein prif lwyddiannau a lefelau aelodaeth cynyddol. Mae’n disgrifio ein trefniadau gweithio mewn partneriaeth a chyllid. Cysylltwch â ni os hoffech dderbyn copi electronig o’r adroddiadau blaenorol.
Mae uchafbwyntiau eraill yn cynnwys ein rhaglen hyfforddi Cynghorwyr, a threfniadau llywodraethu gwell. Rydym yn annog atebion digidol, yn ymateb i’r argyfwng Costau Byw, ac yn datblygu bioamrywiaeth drwy ein rhaglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur. Gellir gweld manylion yr holl fentrau hyn ar draws y wefan hon.
Cyhoeddir ein Cynllun Busness blynyddol isod. Mae e’n disgrifio ein cyflawniadau allweddol a llawer mwy; hefyd gweler ein llythyr Aelodaeth Blynyddol i Gynghorau isod.
Mae Un Llais Cymru yn credu bod Cynghorau Cymuned a Thref yn hanfodol i sicrhau adfywiad yn ein cymunedau yng Nghymru. Byddwn yn ymgysylltu â chyrff megis Llywodraeth Cymru, Senedd Cymru, Archwilio Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu, Cymdeithas Genedlaethol y Cynghorau Lleol, Cymdeithas Clercod Cynghorau Lleol, Cymorth Cynllunio Cymru, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Cymru ac eraill i wireddu hyn. Ewch i’n tudalen Partneriaid am ragor o wybodaeth.