Y Tîm Bioamrywiaeth - Un Llais Cymru
Mynd i'r cynnwys

Y Tîm Bioamrywiaeth

Mae’r Tîm Bioamrywiaeth Un Llais Cymru yma i helpu Cynghorau Cymuned a Thref efo pob agwedd o fioamrywiaeth.

Mae Rachel Carter yn rheoli’r rhaglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, gan gynnig cefnogaeth a chyngor penodol i Gynghorau yn y siroedd canlynol fel Swyddog Bioamrywiaeth De Cymru:

  • Sir Fynwy
  • Casnewydd
  • Caerdydd
  • Blaenau Gwent
  • Torfaen
  • Merthyr Tudful
  • Rhondda Cynon Tâf
  • Bro Morgannwg
  • Pen-y-bont ar Ogwr
  • Castell-nedd Port Talbot
  • Abertawe
  • Sir Caerfyrddin
  • Sir Benfro

Mae Sam Langdon yn cynorthwyo rheolwr y Rhaglen gan gynnig cefnogaeth a chyngor penodol i bob Swyddog Bioamrywiaeth Cyngor ar gyfer Gogledd Cymru yn y siroedd canlynol:

  • Sir y Fflint
  • Wrecsam
  • Sir Ddinbych
  • Conwy
  • Ynys Môn
  • Gwynedd

Bydd pa Swyddog sy’n cynrychiolu Cynghorau Cymuned a Thref yng Ngheredigion a Phowys yn dibynnu ar y lleoliad.

Jen Willis yw’r Swyddog Cymorth Rhaglenni ac mae hi’n darparu cymorth gweinyddol, creu cynnwys cyfryngau cymdeithasol ac yn delio ag ymholiadau a cheisiadau i’r rhaglen grantiau bioamrywiaeth.

Gallwch gysylltu â’r tîm yma: [email protected]

Mae’r tîm wedi’u hariannu gan Lywodraeth Cymru trwy’r rhaglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur sy’n anelu i greu ‘Natur ar garreg eich drws’.


Sut allem helpu eich cyngor?

Fel y gallwch weld yn is, gall ein Tîm Bioamrywiaeth cynnig gwasanaethau amrywiol i Gynghorau Cymuned a Thref. Nid oes angen i chi bod yn aelod i dderbyn ein gwasanaethau. Mae’r tîm wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru trwy gyllid Lleoedd Lleol ar Gyfer Natur sydd yn anelu i greu ‘Natur ar garreg eich drws’.