Y Ddyletswydd Adran 6
Beth yw’r ddyletswydd Adran 6?
Mae gan eich Cyngor Cymuned neu Dref ddyletswydd statudol o dan Adran 6 o Ddeddf yr Amgylchedd (2016) sy’n datgan bod pob corff cyhoeddus…
…rhaid ceisio cynnal a gwella bioamrywiaeth wrth arfer eu swyddogaethau mewn perthynas â Chymru, a thrwy wneud hynny hybu cydnerthedd ecosystemau, i’r graddau y mae’n gyson ag arfer y swyddogaethau hynny’n briodol.
Er mwyn cydymffurfio, dylai Cyngor:
ymgorffori’r ystyriaeth o fioamrywiaeth ac ecosystemau yn eu meddwl cynnar a’u cynllunio busnes, gan gynnwys unrhyw bolisïau, cynlluniau, rhaglenni, a phrosiectau, yn ogystal â’u gweithgareddau o ddydd i ddydd.
Mae rhaid i bob awdurdod cyhoeddus, gan gynnwys pob C&TCs, gyhoeddi adroddiad ar yr hyn y maent wedi’i wneud i gydymffurfio â’r ddyletswydd. Roedd yr adroddiad cyntaf i fod i gael ei gyhoeddi ddiwedd Rhagfyr 2019, ac yna rhaid cyhoeddi adroddiadau pellach cyn diwedd pob trydedd flwyddyn. Roedd disgwyl yr adroddiad diwethaf erbyn diwedd mis Rhagfyr 2025. Mae adroddiadau yn darparu tryloywder, atebolrwydd ac yn arf cyfathrebu. Bydd y cylch adrodd nesaf ar ddiwedd 2028.
Mae yna 2 rhan allweddol i ddyletswydd Adran 6 Cynghorau:
Yr Adroddiad Adran 6
Dyle pob Cyngor Cymuned a Thref wedi cyhoeddi ei adroddiad erbyn diwedd 2025.
Gellir cynnwys adroddiadau yn Adroddiad Blynyddol 2024 eich Cyngor neu eu cwblhau ar wahân gan ddefnyddio templedi a ddarperir. Unwaith y byddant wedi’u cadarnhau rhaid eu cyhoeddi ar wefan neu sicrhau eu bod ar gael ar gais. Wedyn, dylsech chi rhannu copi o’r adroddia efo’r dolen URL i le y cyhoeddwyd i’r Tîm Bioamrywiaeth: [email protected]
Gall fod yn helpfawr i strwythuro’ch adroddiadau i alinio efo amcanion Cynllun Gweithredu Adfer Natur. Mae’r cynllun yma wedi’i ddiweddaru, ac rydym ni wedi diweddaru ein hadnoddau yw adlewyrchu hyn.
Sylwch y dylai’r adroddiad fod yn gymesur â chwmpas pob cyngor.
Cyfeiriwch at y dogfen Adran 6 – beth sydd angen gwybod i ddeall pa adrannau o’r adroddiad y dylai fod angen i chi eu cwblhau.
Cynlluniau Gweithredu Bioamrywiaeth
Er mwyn galluogi Cyngor i gwblhau adroddiadau Adran 6 cadarn, mae hefyd yn ofynnol i bob Cyngor Cymuned a Thref gyhoeddi Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth gweithredol neu fod ar gael ar gais. Gall Cynghorau ofyn am gyngor ac arweiniad gan ein Tîm Bioamrywiaeth wrth ysgrifennu eu cynlluniau.
Yna, dylid adolygu’r cynllun gorffenedig a’i ddiweddaru’n rheolaidd, efo un adolygiad ffurfiol pob blwyddyn. Ar ddiwedd pob cyfnod o 3 blynedd, gellir trosglwyddo’r holl dasgau a gwblhawyd ar y Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth i’ch Adroddiad Adran 6.
Mae gennym amrywiaeth o adnoddau ar gael isod i helpu cynghorau baratoi eu cynlluniau.
Mae rhain wedi’u diweddaru i adlewyrchu 6 amcan newydd y Cynllun Gweithredu Adfer Natur Cymru 2026.