Hyfforddiant a Gweminarau Bioamrywiaeth
Mae hyfforddiant rheolaidd yn hollbwysig i gynghorau effeithiol. Mae angen i bob cynghorwr fod yn ymwybodol o bwysigrwydd bioamrywiaeth a’u dyletswydd o dan Adran 6. I helpu eich cyngor datblygu’r sgiliau a’r wybodaeth ofynnol, rydym yn rhedeg gweminarau a chyrsiau hyfforddi yn aml.
Rydym bellach yn cynnig 3 modiwl sy’n cael eu cyflwyno ochr yn ochr â’r fwydlen hyfforddi bresennol yn Un Llais Cymru gan ein tîm o Gymdeithion Hyfforddwyr rhagorol. Mae’r ddau gwrs yn boblogaidd iawn felly archebwch le nawr!
Modiwlau 25 a 26
Hanfodion bioamrywiaeth Rhan 1 a 2 – Cwrs dwy ran yn dysgu hanfodion bioamrywiaeth, adfer byd natur ac ecole, yr angen i Gynghorau wneud penderfyniadau da a chynlluniau Gweithredu Bioamrywiaeth effeithiol. Mae’n dilyn yr un ‘5 piler bioamrywiaeth’ ag a gyflwynwyd yn y ddogfen ganllaw. Ar ôl mynychu’r cwrs hwn bydd Cynghorau mewn gwell sefyllfa i ysgrifennu Cynlluniau Gweithredu Bioamrywiaeth ac Adroddiadau Adran 6 cadarn, a chwrdd â’r ddyletswydd Adran 6 honno o fioamrywiaeth a chydnerthedd ecosystemau.
Cynhyrchwyd mewn partneriaeth â Cynnal Cymru.

Modiwl 27
Rheoli Prosiectau Natur – Cwrs a gyflwynir dros 1 sesiwn sy’n dangos hanfodion rheoli prosiect yng nghyd-destun prosiectau natur ac amgylcheddol. Bydd taflenni’n cynnwys rhestr wirio prosiectau i Gynghorau i’w helpu i reoli prosiectau yn unol ag egwyddorion Bioamrywiaeth, ar amser ac o fewn y gyllideb. Y gobaith yw y bydd pob Cyngor sy’n mynychu’r cwrs hwn eisoes wedi mynychu’r Cwrs Hanfodion Bioamrywiaeth yn gyntaf.
Cynhyrchwyd mewn partneriaeth â Catrin Evans Consultancy.

Rydym yn rhedeg gweminarau ar nifer o destunau gwahanol. Edrychwch nol yn aml am ein digwyddiadau mwyaf diweddar.