Y Gwahaniaeth y mae Cynghorau Cymuned a Thref yn ei Wneud Ledled Cymru
Mae Asesiad newydd, annibynnol o Effaith Gymdeithasol, a gomisiynwyd gan Un Llais Cymru ac a gynhaliwyd gan Wavehill, wedi mesur y cyfraniad y mae Cynghorau Cymuned a Thref yn ei wneud i gymunedau ledled Cymru. Mae’r canfyddiadau’n dangos fod ymyriadau bychain, lleol yn creu gwerth cymdeithasol o bwys, sy’n aml yn cael ei gyflawni gydag ychydig iawn o staff a chyllidebau cynnil iawn.
£25.97 miliwn
o werth cymdeithasol wedi’i greu ar gyfer cymunedau ledled Cymru
£4.86
o werth wedi’i greu ar gyfer pob £1 a fuddsoddwyd gan gynghorau
237 cyngor
wedi cyfrannu at y corff tystiolaeth
169,200+
o oriau gwirfoddolwyr, pobl leol yn cefnogi eu cymunedau
187,000+
o brydau wedi’u darparu trwy weithgarwch a arweiniwyd gan gynghorau
£675,000+
wedi’i ddatgloi ar gyfer pobl trwy gyngor ar fudd-daliadau
Mae’r ffigyrau hyn yn adlewyrchu’r gweithgarwch yr oedd y 237 cyngor a gymerodd ran wedi cyfrannu ato. Mae’r gwir ddarlun ar draws Cymru yn debygol o fod gryn dipyn yn uwch.
Beth mae’r asesiad yn ddangos
Mae Cynghorau Cymuned a Thref yn sefyll yn y bwlch er mwyn cefnogi pobl leol trwy gyfnod yr argyfwng costau byw, yn aml gydag ychydig iawn o staff a chyllidebau cynnil iawn.
Mae’r dystiolaeth yn dangos fod Cynghorau yn cyfrannu ar draws ystod eang o feysydd:
- Cefnogi pobl fregus
- Mynd i’r afael ag unigedd ac unigrwydd
- Cryfhau llesiant a gwytnwch cymunedau
- Galluogi pobl i wirfoddoli a chymunedau i gymryd rhan
- Galluogi mwy o bobl i gael cefnogaeth leol a chymryd rhan mewn gweithgareddau
- Cefnogi dulliau ataliol ac ymyriadau cynnar
- Ymateb yn hyblyg i angen lleol yn ystod cyfnodau o bwysau a newid
Beth sy’n amlwg yw’r safle unigryw sydd gan Gynghorau Cymuned a Thref mewn cymunedau: mudiadau lleol iawn y mae pobl yn ymddiried ynddynt, gwybodaeth leol fanwl, a’r gallu i lunio ymatebion ymarferol yn seiliedig ar le.
Beth ddywedodd cynghorau wrthym
Trwy’r asesiad, rhoddodd Cynghorau wybod inni am yr effaith maen nhw’n ei chael a’r heriau maen nhw’n eu hwynebu. Y prif themâu a welwyd:
- Capasiti yw’r rhwystr mwyaf. Mae gan 60% o Gynghorau un aelod o staff yn unig, yn gweithio cyfartaledd o 8 awr yr wythnos.
- Mae gwneud ceisiadau grant yn her arbennig, yn enwedig i Gynghorau llai.
- Nid yw canllawiau a luniwyd ar gyfer mudiadau mwy yn gweithio bob tro. Mae Cynghorau eisiau enghreifftiau a chyfarpar sy’n gweithio mewn gwirionedd.
- Deall angen lleol yw un o’r cwestiynau mwyaf heb eu hateb i Gynghorau sy’n cychwyn gweithgarwch newydd.
- Mae gwaith partneriaeth yn allweddol i’r gweithgarwch mwyaf effeithiol, gyda Chynghorau Gwirfoddol Sirol, cymdeithasau tai, banciau bwyd, Cyngor ar Bopeth a mudiadau trydydd sector eraill.
Sut mae Un Llais Cymru yn ymateb
Mae Cam 2 Prosiect yr Argyfwng Costau Byw yn fyw, ac mae’n parhau tan fis Mawrth 2027, ac yn adeiladu’n uniongyrchol ar beth ddywedodd cynghorau wrthym. Mae’n cynnwys:
- Cynllun grantiau bychan gwerth £30,000, ar gyfer y camau cyntaf gan gynghorau llai, gyda chymorth ysgrifennu ceisiadau grant un ac un ar gael
- Gweminarau deufisol a chlinigau thematig ar-lein ar feysydd sy’n bwysig i’r rhan fwyaf o gynghorau
- Canllawiau newydd ar ymgysylltu cymunedol, gwaith partneriaeth, bwyd cymunedol, a thlodi tanwydd
- Grŵp Data newydd i Gynghorau sy’n helpu adeiladu’r corff tystiolaeth parhaus
- Cynlluniau Arbrofol Galluogi Cyflawni i Gynghorau sydd eisoes yn trefnu gweithgarwch sydd eisiau mynd ag ef ymhellach
- Rhybuddion ariannu cyson, astudiaethau enghreifftiol a chyd-ddysgu
Lawr lwythwch y deunyddiau
Ar gael yn Gymraeg a Saesneg.
- Adroddiad Llawn Wavehill ar yr Asesiad o Effaith Gymdeithasol (PDF)
- Esboniad i Gynghorau: trosolwg byr i gynghorau, aelodau a chymunedau (Flipbook)
- Crynodeb gweithredol: esboniad polisi 1 dudalen (PDF)
- Ffeithlun o’r prif ganfyddiadau (PDF)
- Neges gan Lyn Cadwallader, Prif Weithredwr (PDF)
Cysylltwch
Os oes gennych gwestiynau am y canfyddiadau, eisiau trafod beth maen nhw’n ei feddwl i’ch cyngor chi, cysylltwch â thîm Prosiect yr Argyfwng Costau Byw.
Ebost: [email protected]
Ymunwch â’r Sgwrs: Argyfwng Costau Byw – Grŵp Facebook
