Gwasanaeth
Cymunedau Cyfeillgar i Oed
Rhagarweiniad
Mae Cymunedau Oed Gyfeillgar yn ceisio creu mannau lle y gall pobl heneiddio’n dda, aros yn weithgar a chwarae rhan lawn ym mywyd y gymuned. Maen nhw’n cydnabod y cyfraniad pwysig y mae pobl hŷn yn ei wneud i gymdeithas ac yn ceisio symud rhwystrau all fod yn eu hatal rhag byw’n annibynnol a chynnal cysylltiadau.
Mae gan Gynghorau Cymuned a Thref rôl bwysig i’w chwarae yn cefnogi mentrau oed gyfeillgar, gwella amgylcheddau lleol a gweithio gyda phartneriaid i helpu sicrhau bod cymunedau yn gynhwysol a chefnogol i bobl o bob oed.
Mae’r dudalen hon yn crynhoi canllawiau, adnoddau, enghreifftiau a diweddariadau er mwyn cefnogi cynghorau i ddatblygu a chryfhau mentrau oed gyfeillgar, ac mae’n amlygu cyfleoedd i gymryd rhan.
Defnyddio’r dudalen hon
- Beth yw Cymuned Oed Gyfeillgar?
- Beth all Cynghorau Cymuned a Thref Wneud
- Adnoddau a Chanllawiau
- Astudiaethau Enghreifftiol
- Digwyddiadau a Gweminarau
- Partneriaid
- Cymryd rhan
Diweddariadau Diweddaraf
25 Mawrth 2026 – Amser i Addasu: Archwilio’r amseroedd aros am Grantiau Cyfleusterau i Bobl Anabl yng Nghymru
Mawrth 2026 – Diweddariad gan Lywodraeth Cymru ar strategaeth Cymru Gyfeillgar i Oed
Chwefror 2026 – Ymgynghoriad wedi cael ei lansio ar heneiddio’n dda mewn cymunedau
Beth yw Cymuned Oed Gyfeillgar?
Mae Cymuned Oed Gyfeillgar yn cydnabod y cyfraniad gwerthfawr y mae pobl hŷn yn ei wneud ac mae’n gofalu fod cymunedau’n cael eu cynllunio i gefnogi pobl ymhob cam o’u bywydau. Y nod yw creu amgylcheddau lle y gall pobl hŷn aros yn weithgar, cysylltiedig ac annibynnol.
Mae strategaeth Llywodraeth Cymru Cymru o blaid pobl hŷn: Ein Strategaeth ar gyfer Cymdeithas sy’n Heneiddio, a gyhoeddwyd yn 2021, yn amlinellu’r ffactorau sy’n dylanwadu ar sut rydym yn heneiddio — o iechyd a gofal cymdeithasol i drafnidiaeth, swyddi a chyfleoedd i gymryd rhan. Mae’n defnyddio dull seiliedig ar hawliau sy’n rhoi lleisiau pobl hŷn ynghanol polisi a chynllunio, tra’n herio syniadau stereonodweddiadol am heneiddio.
Cymru o blaid pobl hŷn: ein strategaeth ar gyfer cymdeithas sy’n heneiddio
Mae’r prif feysydd sy’n dylanwadu ar sut rydym yn heneiddio yn cynnwys:
- Lleoedd awyr agored ac adeiladau
- Trafnidiaeth
- Tai
- Cyfranogiad cymdeithasol
- Parch a chynhwysiant cymdeithasol
- Cyfathrebu a gwybodaeth
- Cefnogaeth gymunedol a gwasanaethau iechyd
Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol a phartneriaid i gefnogi’r gwaith o ddatblygu Cymunedau Oed Gyfeillgar ledled Cymru, gan gynnwys gweithio tuag at ymuno â Rhwydwaith Sefydliad Iechyd y Byd o Ddinasoedd a Chymunedau Oed-gyfeillgar. Mae’r ymagwedd hon yn cydnabod pwysigrwydd creu amgylcheddau sy’n cefnogi pobl i heneiddio’n dda, aros yn annibynnol a pharhau i gyfrannu i’w cymunedau.
Rhwydwaith Sefydliad Iechyd y Byd o Ddinasoedd a Chymunedau Oed-gyfeillgar
Beth all Cynghorau Cymuned a Thref Wneud
Mae enghreifftiau’n cynnwys:
- Gosod meinciau neu fannau gorffwys i wneud lleoedd awyr agored yn fwy hygyrch
- Cefnogi clybiau cinio, boreau coffi a gweithgareddau cymdeithasol
- Rhannu gwybodaeth eglur a hygyrch trwy gylchlythyron, hysbysfyrddau a rhwydweithiau cymunedol
- Gweithio gyda mudiadau lleol, gwirfoddolwyr a grwpiau cymunedol
- Hyrwyddo gwasanaethau, digwyddiadau a gweithgareddau lleol sy’n cefnogi iechyd a llesiant
Hefyd, gall cynghorau gefnogi’r gwaith hwn trwy gyfrannu at ymgynghoriadau, mynychu digwyddiadau a gweithio mewn partneriaeth gydag awdurdodau a sefydliadau lleol.
Adnoddau a Chanllawiau
Mae’r adran hon yn crynhoi canllawiau ymarferol, adnoddau a mudiadau at ei gilydd i gefnogi datblygu Cymunedau Oed Gyfeillgar.
Mae’r adran hon yn darparu canllawiau a chymorth ymarferol i gefnogi cynghorau i ddatblygu Cymunedau Oed Gyfeillgar.
Mae strategaeth Llywodraeth Cymru yn amlinellu’r ymagwedd genedlaethol ar gyfer heneiddio’n dda ac yn amlygu’r prif ffactorau sy’n dylanwadu ar sut rydym yn heneiddio.
Cymru o blaid pobl hŷn: ein strategaeth ar gyfer cymdeithas sy’n heneiddio
Mae’r Ganolfan ar gyfer Heneiddio’n Well wedi datblygu adnoddau i gefnogi awdurdodau lleol a chymunedau.
Y llawlyfr:
- Mae’n esbonio beth sy’n gwneud lle yn oed-gyfeillgar
- Mae’n dangos sut mae meysydd polisi gwahanol yn cysylltu
- Mae’n pwysleisio’r angen i wasanaethau lleol gydweithio
Mae’r teclyn mapio yn helpu cynghorau i:
- Adnabod beth sy’n digwydd yn barod yn lleol
- Cynnwys budd-ddeiliaid a phobl hŷn eraill
- Mae’n amlygu bylchau a chyfleoedd
Mae ymchwil a thystiolaeth yn helpu dangos sut all cymunedau gefnogi pobl hŷn yn well a llywio polisi ac arfer.
- Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru – Amser i addasu
Adroddiad newydd yn archwilio amseroedd aros ar gyfer Grantiau Cyfleusterau Anabledd yng Nghymru - Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru – Pobl Hŷn mewn Tlodi yng Nghymru
Mae adroddiad newydd yn datgelu maint ac effaith tlodi ymhlith pobl hŷn yng Nghymru - Ymchwil a chyhoeddiadau’r Ganolfan ar gyfer Heneiddio’n Well
Centre for Ageing Better | Action today for all our tomorrows - Adroddiadau Llywodraeth Cymru a thystiolaeth ar heneiddio a llesiant
Cymru o blaid pobl hŷn: ein strategaeth ar gyfer cymdeithas sy’n heneiddio
- Older People’s Commissioner for Wales
Hafan – Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru - Age Cymru
Age Cymru | Ni yw’r elusen genedlaethol ar gyfer pobl hŷn yng Nghymru - Llywodraeth Cymru
Hafan | LLYW.CYMRU - Canolfan ar gyfer Heneiddio’n Well
Canolfan ar gyfer Heneiddio’n Well | Cam gweithredu heddiw ar gyfer ein holl ddyddiau yfory
Astudiaethau Enghreifftiol
Mae Cynghorau Cymuned a Thref ledled Cymru eisoes yn cynnal mentrau sy’n cefnogi pobl hŷn ac yn helpu creu cymunedau cryfach, mwy cynhwysol.
Mae enghreifftiau o fentrau lleol yn cynnwys:
- Clybiau cinio cymunedol a gweithgareddau cymdeithasol
- Lleoedd cymunedol cynnes a chroesawus
- Cynlluniau trafnidiaeth cymunedol
- Prosiectau pontio’r cenedlaethau
- Mentrau lleol sy’n helpu lleihau unigrwydd ac unigedd
Bydd astudiaethau enghreifftiol ac enghreifftiau gan gynghorau yn cael eu hychwanegu yma wrth iddyn nhw ddod ar gael.
Digwyddiadau a Gweminarau
Mae Un Llais Cymru yn gweithio gyda phartneriaid i drefnu digwyddiadau, gweminarau a chyfleoedd dysgu ar Gymunedau Oed Gyfeillgar. Mae Cynghorau Cymuned a Thref yn cael eu hannog i gymryd rhan yn y sesiynau a’r ymgynghoriadau hyn er mwyn dysgu mwy a rhannu profiadau.
15 Mehefin 2026 – Cinio a Dysgu’rRNID (ar-lein)
Amser: 12:30pm
Hyd: 30–45 munud
Lleoliad: Microsoft Teams
Mwy am y sesiwn
- Bydd yr RNID yn rhoi cyflwyniad ar eu gwasanaethau galw heibio cymunedol newydd ar Gymhorthion Clyw sy’n cael eu datblygu ar hyd De a Gorllewin Cymru.
Cofrestru
Partneriaid
Mae datblygu Cymunedau Oed Gyfeillgar yn golygu cydweithio rhwng Cynghorau Cymuned a Thref, awdurdodau lleol, Llywodraeth Cymru a nifer o bartner sefydliadau sy’n gweithio i gefnogi pobl hŷn.
Mae’r prif fudiadau sy’n gweithio yn y maes hwn yn cynnwys:
- Llywodraeth Cymru
- Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru
- Age Cymru
- Canolfan ar gyfer Heneiddio’n Well
- Awdurdodau lleol a mudiadau cymunedol
Cymryd rhan
Mae Cynghorau Cymuned a Thref ledled Cymru yn gwneud gwaith pwysig i gefnogi pobl hŷn a helpu creu cymunedau cynhwysol.
Os yw eich cyngor yn trefnu menter sy’n cefnogi pobl hŷn neu’n cefnogi’r gwaith o greu cymuned oed gyfeillgar, byddem yn croesawu’r cyfle i rannu eich gwaith. Mae hyn yn ein helpu i amlygu arfer da a rhannu syniadau ar draws Cymru.
Mae cynghorau’n cael eu hannog hefyd i gymryd rhan mewn digwyddiadau, ymgynghoriadau a gweithgarwch ehangach i gefnogi datblygu Cymunedau Oed Gyfeillgar ledled Cymru.
Gallwch hefyd gwblhau seithfed arolwg blynyddol Age Cymru a rhannu gwybodaeth am y gwaith y mae eich cyngor yn ei wneud i gefnogi Cymunedau Oed Gyfeillgar.
Er mwyn cael mwy o wybodaeth cysylltwch â ni yn [email protected]