Lleoedd Lleol ar gyfer Natur - Un Llais Cymru
Mynd i'r cynnwys

Lleoedd Lleol ar gyfer Natur

Rhaglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur

Dyma’r rhaglen cyllid cyfalaf a sefydlwyd yn 2020 gan Lywodraeth Cymru i helpu i ‘atal a gwrthdroi dirywiad bioamrywiaeth’ yng Nghymru. O dan Adran 6 Deddf yr Amgylchedd 2016 mae gan bob corff cyhoeddus ddyletswydd statudol i adrodd ar sut maent yn cynnal a gwella bioamrywiaeth. Rydym am weld pob un o’n haelod gynghorau yn cymryd rhan ac yn annog eu cymuned i gymryd rhan yn y cynllun cyffrous hwn.

Fel Cynghorau Cymuned a Thref rydych mewn sefyllfa dda i ddatblygu lles amgylcheddol yr ardaloedd yr ydych yn eu gwasanaethu, ac mae Un Llais Cymru mewn sefyllfa unigryw i’ch helpu i gyflwyno’r rhaglen lleoedd lleol ar gyfer natur.

Mae Llywodraeth Cymru wedi datgan argyfwng hinsawdd ac wedi rhoi cynllun adfer natur ar waith. Rydym am helpu ein cynghorau i gymryd rhan mewn creu ‘Natur ar garreg y drws’ ar gyfer eich cymunedau a gadael etifeddiaeth ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Roedd ein profiadau a rennir yn ystod y pandemig Covid wedi tynnu sylw at bwysigrwydd natur a mannau gwyrdd yn ein cymunedau a rôl hanfodol cyrff democrataidd lleol fel eich un chi.

Mae Llywodraeth Cymru wedi datgan argyfwng hinsawdd ac wedi rhoi cynllun adfer natur ar waith. Rydym am helpu ein cynghorau i gymryd rhan mewn creu ‘Natur ar garreg y drws’ ar gyfer eich cymunedau a gadael etifeddiaeth ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Roedd ein profiadau a rennir yn ystod y pandemig Covid wedi tynnu sylw at bwysigrwydd natur a mannau gwyrdd yn ein cymunedau a rôl hanfodol cyrff democrataidd lleol fel eich un chi.

Bydd y rhaglen cyllid cyfalaf hon yn rhoi cyfle i chi roi prosiectau ar waith i gynyddu bioamrywiaeth a newid eich cymunedau ar gyfer y dyfodol.

Gall Tîm Bioamrywiaeth Un Llais Cymru helpu pob Cyngor Cymuned a Thref i hwyluso’r mathau hyn o brosiectau. Ni fydd eich pwynt cyswllt arbenigol; o gynhyrchu’r syniadau cychwynnol, cael ymgysylltiad cymunedol, gwneud cais llwyddiannus am arian cyfalaf a sefydlu a chynnal y prosiectau.

Lloedd Lleol ar gyfer Natur 2026 – 2027

Pecynnau bioamrywiaeth Un Llais Cymru

Roeddem yn gyffrous iawn i gyflwyno ein 10 pecyn bioamrywiaeth ym mis Medi 2025. Mae’r infograffig isod yn dangos ein llwyddiant.

Yn 2026-2027 mae’r rhaglen cyllid nol ond mae’n edrych ychydig yn wahanol.

Blwyddyn yma, mae’r grantiau wedi’u dylunio i ddarparu’r adnoddau a’r cymorth sydd eu hangen ar Gynghorau er mwyn gwneud gwelliannau bioamrywiaeth a gorffen prosiectau bach. Mae’r proses ymgeisio yn hawdd, a gallwch ddarganfod mwy o wybodaeth yn ein llyfryn digidol yma: Grantiau Bioamrywiaeth ULlC 2026-2027

Pecynnau Cadwch Cymru’n Daclus

Mae Cadwch Gymru’n Daclus yn cynnig amrywiaeth o becynnau gardd am ddim. Os yw eich Cyngor am ymgeisio am un o’r pecynnau hyn, cysylltwch â ni yn y lle cyntaf i drafod eich anghenion a’ch gofynion. Gallwn gynnig cefnogaeth a chyngor ar y broses ymgeisio i sicrhau bod gan eich Cyngor y cyfle gorau i lwyddo.

Partneriaethau Natur Lleol

Bydd gan eich Partneriaeth Natur Leol cyllid cymorthdalu i Gyngorhau Cymuned a Thref. Mae hyn yn newid rhwng partneriaethau. Byddem yn eich diweddaru ar gymorthdaliadau a gallem eich cynghori o unrhyw gyllid am brosiectau.

Hanes Lloedd Lleol ar gyfer Natur 2020 – 2025

Rhwng 2020 a 2025, trefnwyd y rhaglen 5 mlynedd i’r 5 prif faes a ddangosir isod:

Mae’r sector Cynghorau Cymuned a Thref wedi cyfrannu’n sylweddol at gyflawni amcanion y rhaglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur. Ers 2020 mae’r sector wedi cyrchu dros £1.5miliwn o’r cyllid cyfalaf, wedi gosod mwy na 400 o becynnau Cadwch Gymru’n Daclus ac wedi gweithio gyda’u Partneriaethau Natur Lleol i greu, gwella ac adfer bioamrywiaeth a darparu byd natur ar garreg y drws i’w cymunedau.

Mae’r map isod yn dangos lleoliad yr holl brosiectau sy’n cael eu darparu gan Gynghorau Cymuned a Thref:

Map Google o Brosiectau Cyngor

Gwyliwch y fideo hwn i ddysgu mwy am raglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur. Cafodd hwn ei ddangos yn ein digwyddiad Arddangos a gynhaliwyd yn Y Senedd yn 2024.

Dyma ddetholiad bach o’r prosiectau Lleoedd Lleol ar gyfer Natur a gwblhawyd yn llwyddiannus. Gallwch glicio ar bob un i ddarllen rhagor am y prosiectau. 

Digwyddiad Arddangos Y Senedd 2024

Ar ddydd Mercher 27 Tachwedd 2024, cynhaliodd Un Llais Cymru arddangosfa lwyddiannus iawn yn adeilad Y Senedd ym Mae Caerdydd.

Hoffai Un Llais Cymru ddiolch i Carolyn Thomas AS am ei nawdd caredig a’i chefnogaeth i’r digwyddiad. Roedd yn wych cael arddangos Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, a thrafodwyd y digwyddiad hwn yn ystod cwestiynau i’r Prif Weinidog yn y siambr y diwrnod cynt.

Diolch i Carolyn a’r Prif Weinidog am gynrychiolaeth mor gadarnhaol.

Nod y digwyddiad oedd arddangos cyfraniad anhygoel Cynghorau Cymuned a Thref ledled Cymru gyda rhaglen ariannu Lleoedd Lleol ar gyfer Natur.

Roedd yn gyfle unigryw i aelodau’r Senedd, partneriaid y rhaglen ac aelodau’r cyhoedd weld detholiad o brosiectau llwyddiannus Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, a siarad â’r gwirfoddolwyr a gymerodd ran.

Roedd saith prosiect cael eu harddangos gan y Cynghorau canlynol:

• Cyngor Cymunedol Betws

• Cyngor Tref Criccieth

• Cyngor Cymuned Hirwaun a Phenderyn

• Cyngor Cymuned Johnston

• Cyngor Tref Llandrindod

• Cyngor Tref Cwmaman, gyda Cyngor Cymuned Llanedi a Cyngor Cymuned Llannon

• Cyngor Tref Pontypridd

Roedd arddangosfa Un Llais Cymru yn arddangos llawer o brosiectau llwyddiannus eraill a’r rhai sydd ar y gweill ar hyn o bryd. Roedd hefyd yn gyfle i ddysgu am y rôl ehangach y mae Un Llais Cymru yn ei chwarae wrth yrru’r agenda Bioamrywiaeth o fewn y sector Cynghorau Cymuned a Thref trwy ein Swyddog Lleoedd Lleol ar gyfer Natur.

Hoffem ddiolch yn fawr iawn i bawb a helpodd i baratoi a chyflwyno’r digwyddiad hwn ac i bawb a ddaeth draw i’n cefnogi ar y diwrnod.

Edrychwch ar y fideos ar ein sianel YouTube a ddangosir isod:

🎬         Roedd y fideo hwn yn cael ei chwarae ar y sgriniau drwy gydol y digwyddiad, sy’n cynnwys llawer o wybodaeth am raglen ariannu Lleoedd Lleol i Natur, yn ogystal â fideos o rai o’r prosiectau a digwyddiadau eraill Un Llais Cymru:

🎬         Fideo yn dangos uchafbwyntiau’r digwyddiad:

🎬         Y drafodaeth yn ystod Cwestiynau i’r Prif Weinidog 26.11.24