
Cyflwyniadau & Adnoddau’r Digwyddiad
Rydym wedi crynhoi at ei gilydd y cyflwyniadau a’r adnoddau ymarferol a rannwyd yn ystod y digwyddiad, sy’n ei gwneud yn hawdd i ail-edrych ar drafodaethau pwysig, archwilio syniadau newydd a darganfod ffyrdd o gefnogi eich cymuned leol.
Os oeddech yn bresennol neu wedi methu dod, rydym yn eich annog i gael golwg ar yr adnoddau hyn a’u rhannu gyda’ch cyd gynghorwyr a chydweithwyr.
Uchafbwyntiau o’r dydd

Buom yn edrych ar Gynllun Llesiant Sir Gaerfyrddin, y ffordd y datblygodd Cyngor Tref Cwmaman eu prosiect ymgysylltu cymunedol ar fioamrywiaeth, cynhwysiant digidol gyda Cwmpas a Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Un Llais Cymru.
Helpodd trafodaethau rhyngweithiol i adnabod asedau lleol a chyfleoedd newydd ar gyfer gwaith partneriaeth.
Adborth ar y Digwyddiad
Yn seiliedig ar 21 ffurflen werthuso
Dywedodd 81%
fod y digwyddiad yn rhagorol
neu’n dda iawn
Dywedodd 71%
fod y rhwydweithio a’r rhannu yn
ddefnyddiol iawn
Roedd 76%
eisiau mwy o rannu
arfer da
Yn Eich Geiriau Eich Hun…
Dyma rai o’r pethau yr oedd pobl gymerodd ran yn ei hoffi fwyaf am y dydd:
“Roedd yn wych cael cyfle i sgwrsio gyda chynghorwyr eraill. Fe rannon ni arferion da.”
”Rhwydweithio – cysylltiadau newydd.”
”Cyfathrebu gyda phobl eraill o gefndir gweithio tebyg.”
”Clywed beth mae mudiadau a chynghorau gwahanol yn wneud.”
– Pobl a Gymerodd Ran yn y Digwyddiad
Cymorth Ariannol i’ch Cyngor
Cyfleoedd Ariannol Ychwanegol yn Sir Gaerfyrddin
Chwilio am arian i gefnogi prosiect yn eich cymuned?
Mae gwe-dudalen Cyllid Cymunedol Cyngor Sir Caerfyrddin yn cynnwys gwybodaeth am grantiau a chyfleoedd ariannol allai fod ar gael i gefnogi mentrau lleol. Porwch drwy’r dudalen i ddod i wybod mwy am ffynonellau ariannol posib, a ydych yn gymwys a sut i wneud cais.
Cynllun Grantiau Bychain Costau Byw

Mae ein Cynllun Grantiau Bychain ar agor o hyd, ac mae’n cynnig £500 i Gynghorau Cymuned a Thref cymwys a chanddynt incwm blynyddol o £75,000 neu lai os nad ydynt wedi cyflawni prosiect Argyfwng Costau Byw yn barod.
Mae grantiau ar gael trwy’r cyntaf i’r felin gaiff falu. Holwch fwy a gwnewch gais.
Lleoedd Lleol ar gyfer Natur
Dysgwch fwy am gyfleoedd i gefnogi biodamrywiaeth a thir glas cymunedol. Darllenwch fwy.
Cylchlythyr Grantiau a Chyfleoedd Cyllido
Peidiwch ag anghofio am ein Cylchlythyr Grantiau a Chyfleoedd Cyllido rheolaidd, sy’n dwyn ynghyd gyfleoedd cyllido cyfredol, grantiau ac adnoddau defnyddiol ar gyfer Cynghorau Cymuned a Thref.
Gallwch ddod o hyd i gopïau o’n holl gylchlythyrau cyllido yma.
Parhau â’r sgwrs
Bydd eich syniadau, profiadau ac adborth yn helpu cyfrannu at ddigwyddiadau rhanbarthol eraill ar draws Cymru.
Y Fforwm Argyfwng Costau Byw
Gofod cydweithredol i Gynghorau Cymuned a Thref rannu arfer gorau, gofyn cwestiynau, a chael help a chyngor ar faterion sy’n effeithio ar eich cymunedau yn sgil yr argyfwng Costau Byw.
Diolch am bopeth rydych chi’n ei wneud i gefnogi eich cymunedau.
Y Tîm Argyfwng Costau Byw
