Cynadleddau a Digwyddiadau
Cynhadledd Genedlaethol a Seremoni Gwobrwyo
Rydym yn trefnu Cynhadledd Genedlaethol a Seremoni Wobrwyo yn flynyddol ar Faes Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru yn Llanelwedd, ger Llanfair-ym-Muallt. Mae’r Gynhadledd Genedlaethol yn cael ei gynnal yn y bore, a’r Seremoni Wobrwyo yn y prynhawn.
Cynhadledd Genedlaethol a Seremoni Gwobrwo – 1 Gorffennaf 2026
Cynhaliwyd ein Cynhadledd Genedlaethol a Seremoni Wobrwyo ar ddydd Mercher 1 Gorffennaf 2026 ar Faes Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru, Llanelwedd. Cyhoeddwyd yr holl enillwyr, yn ogystal â’r prosiectau a gafodd Ganmoliaeth Uchel a’r rhai a gafodd Ganmoliaeth, yn fyw yn ystod seremoni y prynhawn.
Diolch yn fawr iawn i noddwyr ein Cynhadledd Genedlaethol, MVI AudioVisual.
Diolch yn fawr iawn i noddwyr ein Seremoni Gwobrwyo Cenedlaethol 2026, Banc Unity Trust.
Dyma ddatganiad i’r wasg am y digwyddiad.
Dyma graffegau gwybodaeth yn dangos enillwyr y prif gategorïau gwobrwyo ac enillwyr Gwobr Caerwyn Roberts.
Darllenwch ein Adroddiad yma.
Gwyliwch ein fideo fer o’r digwyddiad:
Gwyliwch ein fideo byr o’r prif gynghorau a enillodd wobrau isod:
Isod mae rhai lluniau o’r digwyddiad:
Cynadleddau Blaenorol
Cynhadledd Gwobrau – 30 Ebrill 2025
Cynhaliwyd Cynhadledd Gwobrau Un Llais Cymru ddydd Mercher 30 Ebrill 2025 yn Hafod a Hendre, Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, LD2 3SY. Mae’r gwobrau hyn yn gyfle i Gynghorau Cymuned a Thref arddangos y gwasanaethau y mae’n eu darparu ar gyfer eu cymunedau, ac yn gyfle i Gynghorwyr, Clercod a staff dderbyn y gydnabyddiaeth y maent yn ei haeddu.
Roedden yn ddiolchgar iawn am ein Prif Noddwyr Unity Trust Bank, ac yn hynod ddiolchgar am eu cefnogaeth a’u brwdfrydedd.
Darllenwch ein Hadroddiad Cynhadledd Gwobrau Cenedlaethol 2025 isod:
Oriel Delweddau Enillwyr 2025:
Darllenwch ein dogfen gryno Astudiaethau Achos 2025 isod, sy’n amlygu holl brosiectau llwyddiannus y Cynghorau o bob rhan o Gymru:
Darllenwch ein Datganiad i’r Wasg am lawer mwy o wybodaeth am y digwyddiad llwyddiannus hwn. Bydd y prosiectau yn cael eu defnyddio fel sail tystiolaeth i hysbysu Llywodraeth Cymru, Awdurdodau Unedol, y Trydydd Sector a phartneriaid allweddol eraill am y gwaith da y mae Cynghorau yn ei wneud yn eu cymunedau ledled Cymru a sut y gallant gefnogi gwaith y sector cynghorau lleol yn y dyfodol.
Sefydlwyd panel annibynnol sy’n cynnwys cyrff cynrychioliadol cenedlaethol i feirniadu’r ceisiadau. Gwahoddir y Cynghorau ar y rhestr fer ar gyfer pob categori i arddangos eu prosiectau ar ddiwrnod y Gynhadledd. Yn ystod y Seremoni Wobrwyo, roedd yr enillwyr yn cael eu cyflwyno â’u gwobrau a’u tystysgrifau. Bydd Un Llais Cymru hefyd yn cyhoeddi adroddiad ar ôl y digwyddiad i’w rannu â chynghorau lleol a sefydliadau rhanddeiliaid ledled Cymru.
Hoffwn ddiolch i chi am y Gynhadledd ddoe, mi wnaeth bob un ohonom fwynhau ein hunain, a phob un ohonym wedi dysgu rhywbeth newydd.
Nia Owen-Midwood,
Wir, roedd y gwobrwyon yn agoriad llygaid i ni.
Roeddwn yn llawn syniadau wedi dwad adra.
Roedd y digwyddiad wedi bod o fydd i ni.
Pwy fyddai’n meddwl y byddai Cyngor Cymuned Buan, sy’n Gyngor bach ofnadwy wedi ennill y gwobrau ddoe….
Clerc Cyngor Cymuned Buan
Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â Chynhadledd Gwobrau Un Llais Cymru, cysylltwch ag Emyr John, Swyddog Cyfathrebu: [email protected] neu ffoniwch y swyddfa ar 01269 595400.
Cysylltwch â ni os hoffech gymryd rhan yn nigwyddiadau Gwobrau Cenedlaethol yn y dyfodol, neu os hoffech noddi’r digwyddiad neu wobr, neu os hoffech gael stondin arddangos yn y digwyddiad mawreddog hwn.
Cynadleddau Blaenorol
Cynhadledd Genedlaethol 2024
Roedd digwyddiad cynhadledd 2024 yn ddathliad dwbl llwyddiannus, gyda rhestr wych o siaradwyr gwadd a chyflwynwyr. Buom yn dathlu 20fed pen-blwydd Un Llais Cymru a hanner can mlynedd ers sefydlu Cynghorau Cymuned a Thref yng Nghymru. Roedd yr adborth a gawsom yn aruthrol ac mae wedi rhoi digon i ni ei ystyried ar gyfer cynadleddau a digwyddiadau mawr yn y dyfodol.
Gwyliwch ein fideo Cynhadledd Genedlaethol 2024 isod:
Cynhadledd Wobrwyo – 27 Mawrth 2024
Isod mae adroddiad Gwobrau Cenedlaethol 2024 ac Astudiaethau Achos o enillwyr y gwobrau:
Oriel Delweddau Enillwyr 2024:
Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â Chynhadledd Gwobrau Un Llais Cymru, cysylltwch ag Emyr John, Swyddog Cyfathrebu: [email protected] neu ffoniwch y swyddfa ar 01269 595400.
Cysylltwch â ni os hoffech gymryd rhan yn nigwyddiadau Gwobrau Cenedlaethol yn y dyfodol, neu os hoffech noddi’r digwyddiad neu wobr, neu os hoffech gael stondin arddangos yn y digwyddiad mawreddog hwn.