Cyfarfod ein Llywydd ac aelodau'r Pwyllgor Gweithredol Cenedlaethol - Un Llais Cymru
Mynd i'r cynnwys

Cyfarfod ein Llywydd ac aelodau’r Pwyllgor Gweithredol Cenedlaethol

Llywydd Un Llais Cymru (ers 18 Medi 2026) – Cynghorydd Mike Theodoulou

Dechreuodd Mike ei yrfa yng Nghyfnewidfa Stoc Llundain cyn symud i Lywodraeth Leol a gweithio i ddwy Fwrdeistref yn Llundain. Yna daeth yn uwch reolwr tai gyda Bwrdeistref Islington yn Llundain, cyn cael ei benodi’n Gyfarwyddwr Gwasanaethau Tai mewn cymdeithas dai fawr. Oddi yno daeth yn Ddirprwy Brif Weithredwr Community Housing Association yn Llundain, ac yna’n Brif Weithredwr PCHA, un o’r cymdeithasau tai mwyaf yn Llundain. Yn ystod yr argyfwng tai gwely a brecwast ar ddiwedd yr 1970au, arloesodd gynlluniau adles mawr trwy ddefnyddio cyllid preifat i ddarparu tai gweddus ar gyfer teuluoedd digartref ac aeth ymlaen i sefydlu ymgynghoriaeth arbenigol oedd yn gweithio gydag awdurdodau lleol ledled gwledydd Prydain i ddarparu cartrefi i fwy na 100,000 o bobl. Yn ddiweddarach daeth yn gyfranddaliwr a chyfarwyddwr Quality Street Homes, cyd-fenter gyda Chymdeithas Adeiladu Nationwide, gan oruchwylio buddsoddiadau o fwy na hanner biliwn o bunnoedd.

Symudodd Mike i Gymru bron i 40 mlynedd yn ôl, priododd Gymraes, ac ers hynny adeiladodd gyfnod hir o wasanaeth cyhoeddus ym myd tai, cyllid a bywyd dinesig yng Nghymru:
• Penodwyd gan Ysgrifennydd Cymru ar fwrdd Cyswllt Busnes, 1997
• Cadeirydd sefydlol Siambr Cymru, yn cynrychioli siambrau ledled y wlad
• Helpodd drefnu rhaglen Amcan Un i Gymru, ac yna gwasanaethodd ar y bwrdd oedd yn ei oruchwylio a chadeiriodd ei is-bwyllgor monitro
• Cadeiriodd y bwrdd partneriaeth a sefydlodd Fanc Datblygu Cymru, a chael trafodaethau uniongyrchol gyda’r Comisiwn Ewropeaidd a Thrysorlys EM
• Gwasanaethodd yn gyfarwyddwr anweithredol ar yr ymddiriedolaeth GIG leol
• Aelod o Fwrdd Cymru y Gronfa Loteri Fawr am naw mlynedd, a chynrychiolodd Cymru ar Fwrdd Cyllido’r DG
• Gwasanaethodd ar bwyllgor arian grant Buddsoddiadau Cymdeithasol WCVA
• Prif Weithredwr Foothold Cymru, elusen cyfiawnder cymdeithasol yn y Canolbarth a’r Gorllewin dros y 26 mlynedd diwethaf
• Cynghorydd Tref am 15 mlynedd, gan gynnwys dwy flynedd yn Faer y Dref
• Cadeirydd presennol Shelter Cymru
• Mae’n ymddiriedolydd Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion, ac yn cadeirio’r Pwyllgor Archwilio a Risg, grŵp a chanddo drosiant o £60m a 900 o staff
• Mae’n aelod o Bwyllgor Archwilio a Risg Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

Mae Mike yn briod ac mae ganddo bum merch, pob un ohonynt yn athrawon. Yn ddiweddar ymunodd â Phlaid Cymru.

Cadeirydd y Pwyllgor Gweithredol Cenedlaethol – Cynghorydd Gordon Hughes

Cadeirydd y Pwyllgor Gweithredol Cenedlaethol yw’r Cynghorydd Gordon Hughes. Mae Gordon hefyd yn Gadeirydd Un Llais Cymru.

Yn wreiddiol o Gaergybi, mae Gordon Hughes wedi ymroi ei fywyd i addysg ar draws y sectorau uwchradd, cynradd ac addysg bellach ac uwch. Bellach yn byw yn ardal Corwen, mae’n chwarae rhan allweddol yn arweinyddiaeth y gymuned leol. Mae Gordon yn aelod o Gyngor Tref Corwen, yn Drysorydd Amgueddfa Corwen, ac yn Gadeirydd y Corff Llywodraethu ar gyfer Ysgol Caer Drewyn ac Ysgol Carrog. Gan ei fod yn angerddol dros eiriolaeth ym maes gofal iechyd, mae hefyd yn gwirfoddoli’n rheolaidd gyda Llais, gan gynrychioli llais cleifion yng Ngogledd Cymru. Mae Gordon yn hapus yn ei briodas â Nerys, sy’n frodor o Glyndyfrdwy. Gyda’i gilydd, mae ganddynt deulu cyfun o bump o blant a saith o wyrion ac wyresau, ac mae’n falch o fod yn Daid iddynt.

Is-Gadeirydd y Pwyllgor Gweithredol Cenedlaethol – Cynghorydd Carrie Townsend Jones

Y Cynghorydd Carrie Townsend Jones yw Is-gadeirydd y Pwyllgor Gweithredol Cenedlaethol ac Is-gadeirydd Un Llais Cymru. Bu Carrie yn Gynghorydd Cymuned ar Gyngor Cymuned Y Mwmbwls er 2017. Bu’n Gadeirydd rhwng 2018 a 2020 ac eto o 2022 i 2023. Bu hefyd yn Gadeirydd y Pwyllgor Amgylcheddol rhwng 2024 a 2026.

Cynrychiolodd Y Mwmbwls ar y Cynghorau Lleol Mwy ers 2018 a chynrychiolodd Bwyllgor Ardal Abertawe ar y Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol era 2023. Bu’n Gadeirydd Pwyllgor Archwilio Un Llais Cymru o 2023 tan 2026. Cafodd ei hethol yn Is Gadeirydd y Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol a Chadeirydd y Pwyllgor Polisi yn 2026.

Mae ganddi ddiddordeb arbennig yn yr amgylchedd a gofalu fod Cyngor Cymuned Y Mwmbwls yn cynnal a chyfoethogi cymuned werdd, llygredd isel a dwysedd naturiol amrywiol. Roedd gyrfa Carrie ym myd Addysg, a gweithiodd i ddechrau gyda phlant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol ar lefelau Cynradd ac Addysg Bellach, ac yna symudodd at brosiectau addysg a chyllid galwedigaethol Ewropeaidd a Rhyngwladol. Mae Carrie yn briod ac mae ganddi ddwy ferch, mab a thri o wyrion ac wyresau.

Aelodaeth o’r Pwyllgor Gweithredol Cenedlaethol

Dyma restr o aelodau presennol ein Pwyllgor Gweithredol Cenedlaethol (ers 18 Medi 2026). Mae’n cynnwys un Cynghorydd (PRIF), ynghyd ag aelod dirprwyol (DIRPRWY), o bob un o’n 16 Pwyllgor Ardal ledled Cymru:

Ynys Môn – PRIF: Delyth Ingram / DIRPRWY: John Egryn Lewis
Arfon / Dwyfor – PRIF: Michael Sol Owen / DIRPRWY: Ifan Hones
Brycheiniog / Maesyfed – PRIF: Barbara Lloyd / DIRPRWY: Nick Pritchard
Penybont ar Ogwr / Bro Morgannwg / Caerdydd – PRIF: John Hughes / DIRPRWY: Richard Cox
Caerfyrddin – PRIF: John Thomas / Caerfyrddin – DIRPRWY: Lee Whatley
Ceredigion – PRIF: Tom Kendall / DIRPRWY: GWAG
Conwy / Dinbych – PRIF: Gordon Hughes (hefyd yn Gadeirydd y Pwyllgor Gweithredol Cenedlaethol) / DIRPRWY: Paul Fletcher
Cymoedd Gwent – PRIF: Glyn Morvan / DIRPRWY: Steve Bard
Meirionnydd – PRIF: Elwyn Evans / DIRPRWY: Meryl Roberts
Maldwyn – PRIF: Derrick Pugh / DIRPRWY: Ann MacGarry
Sir Fynwy / Casnewydd – PRIF: Jenny Carpenter / DIRPRWY: GWAG
Castell Nedd / Port Talbot – PRIF: John Miller / DIRPRWY: David Jones
Penfro – PRIF: Steve O’Connor / DIRPRWY: Randell Thomas-Turner
RCT / Merthyr / Caerffili – PRIF: Mal Davies / DIRPRWY: Lynda Davies
Abertawe – PRIF: Carrie Townsend Jones (ac Is-Gadeirydd y Pwyllgor Gweithredol Cenedlaethol) / DIRPRWY: Susan Rodaway
Wrecsam / Fflint – PRIF: Andrew Bailey / DIRPRWY: Alan Manship

Ewch i’n tudalen Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol am ragor o wybodaeth.