Cynadleddau a Digwyddiadau - Un Llais Cymru
Mynd i'r cynnwys

Ein cynadleddau a’n digwyddiadau

Mae Un Llais Cymru yn trefnu nifer o ddigwyddiadau cenedlaethol mawr drwy gydol y flwyddyn galendr.

Cynhelir ein Cynhadledd Genedlaethol a Seremoni Wobrwyo blynyddol ar ddiwedd Mehefin/dechrau Gorffennaf, a’r Gynhadledd Arfer Arloesol flynyddol yn yr Hydref. Rydym hefyd yn trefnu digwyddiadau ar-lein ychwanegol a gweminarau thematig yn ystod y flwyddyn.

Cynhaliom ni ddigwyddiad dathlu dwbl arbennig unwaith ac am byth fel rhan o’n Cynhadledd Genedlaethol ym mis Hydref 2024. Roedd hyn i ddathlu ein pen-blwydd yn 20 oed (2004-2024) ac i gyd-fynd â’r 50 mlynedd ers ffurfio Cynghorau Cymuned a Thref yng Nghymru (1974-2024). Fel rhan o’r dathliadau hyn, fe wnaethom gomisiynu ffotograffydd a fideograffydd swyddogol (a chael cacen pen-blwydd!). Gallwch weld uchafbwyntiau’r diwrnod isod:

Fideo Cynhadledd Genedlaethol 2024 (Steel Wall Photography)

Ewch i’n sianel You Tube i wylio cyfres o recordiadau fideo.