Podlediadau ar y Cyd Un Llais Cymru ac Archwilio Cymru 2026 - Un Llais Cymru
Mynd i'r cynnwys

Podlediadau ar y Cyd Un Llais Cymru ac Archwilio Cymru 2026

Cydweithiodd Un Llais Cymru â thîm y Gyfnewidfa Arfer Da yn Archwilio Cymru i gynhyrchu cyfres o bodlediadau newydd ar gyfer sector Cynghorau Cymuned a Thref yng Nghymru. Mae’r gyfres o bodlediadau’n archwilio’r prosiectau a’r bobl sy’n helpu Cynghorau Tref a Chymuned i wneud gwahaniaeth ar draws cymunedau yng Nghymru, yn ogystal ag amlygu cyfleoedd ar gyfer datblygiad parhaus y sector.

Mae’r gyfres yn dechrau â thrafodaeth strategol sy’n cynnwys Lyn Cadwallader a Paul Egan o Un Llais Cymru, sy’n myfyrio ynghylch dyfodol Cynghorau Tref a Chymuned a sut y gallant ddod yn haen fwy effeithiol a dylanwadol byth o lywodraeth leol. Mae pwysigrwydd arweinyddiaeth broffesiynol gref yn cael ei archwilio trwy sgwrs gydag Emma Smith, Clerc Tref Caerfyrddin, sy’n rhannu ei phrofiadau hi o rôl y Clerc a nodweddion Clerc effeithiol.

Mae nifer o benodau’n arddangos ffyrdd arloesol y mae Cynghorau Tref a Chymuned yn ymgysylltu â’u cymunedau. Ym Mlaenafon, mae Boyd Painter a Daniel Morse, y Cynrychiolwyr Ieuenctid cyntaf i gael eu penodi gan unrhyw Gyngor Tref neu Gymuned yng Nghymru, yn trafod sut y maent yn cynnwys safbwyntiau pobl ifanc mewn prosesau penderfynu lleol ac yn cryfhau ymgysylltiad cymunedol. Yng Nghriccieth, mae llwyddiant Gardd Gymunedol Cae Crwn yn dangos sut y gall Cynghorau Tref weithredu fel cynullwyr, gan ddod â phobl a sefydliadau lleol ynghyd i greu mannau cymunedol a werthfawrogir. Yn yr un modd, mae Tasglu Cyngor Cymuned Cwmbrân yn amlygu sut y mae cymorth ymarferol, o arddio i wella’r cartref, wedi helpu trigolion agored i niwed gan hefyd feithrin cymuned fwy cynhwysol.

Mae’r gyfres hefyd yn archwilio sut y gall cynghorau gefnogi llesiant a gwydnwch. Yng Nghaernarfon, mae’r siop elusennol O Law i Law wedi tyfu o fenter ymarferol a oedd yn cefnogi teuluoedd i fod yn hyb cymunedol ffyniannus. Yn y cyfamser, mae Cyngor Tref yr Wyddgrug yn dangos gwerth ymgysylltu’n uniongyrchol â phobl ifanc trwy bartneriaethau ag ysgolion, gan gynnwys ymgyrch llwyddiannus yn erbyn fepio ac adfywiad parhaus Bryn y Beili.

Yn olaf, mae Deryck Evans yn cynnig mewnwelediadau i archwilio Cynghorau Tref a Chymuned, gan rannu enghreifftiau o lywodraethu da a chyngor ymarferol i gynghorau sy’n ceisio cryfhau eu heffeithiolrwydd a’u hatebolrwydd. Mae’r sgyrsiau hyn yn amlygu ehangder y gwaith sy’n digwydd ledled Cymru ac yn dangos sut y mae Cynghorau Tref a Chymuned yn helpu i greu cymunedau mwy gwydn a chryfhau democratiaeth leol.

I wrando ar y gyfres o bodlediadau (Podlediadau 201 i 208), cliciwch isod: