Ffurflen Gais Gwobrau Cenedlaethol 2026 Un Llais Cymru
Croeso i Wobrau Cenedlaethol Un Llais Cymru 2026. Rhaid inni ddiolch yn fawr iawn i noddwyr ein Gwobrau Cenedlaethol eleni, sef Unity Trust Bank.
Rydym yn croesawu cyflwyno’r Ffurflen Gais hon yn y Gymraeg neu’r Saesneg. Gall ymgeiswyr ei chwblhau yn eu dewis iaith. Os hoffech gyflwyno Ffurflen Gais Saesneg, ewch i’r tudalennau Gwobrau cyfatebol ar ein gwefan Saesneg.
Nodyn: Mae proses Gwobrau Un Llais Cymru ar agor i Gynghorau sy’n aelodau cyfredol o Un Llais Cymru.
Pa Gategori ydych chi’n gwneud cais iddo?
Cyfeiriwch at y Canllaw Enwebu 2026 sy’n amlinellu’r holl Gategorïau. Gwnewch yn siŵr bod y prosiect a enwebir yn cyd-fynd yn glir â’ch categori dewisol.
I’ch helpu, mae enghreifftiau o brosiectau a mentrau wedi’u rhestru ar gyfer pob categori ar y ddogfen Canllaw Enwebu. Isod mae PDF o Ganllaw 2026:
Fe welwch hefyd gwybodaeth ar brosiectau buddugol blaenorol ar ein tudalenni gwefan: Cynhadledd Gwobrau Cenedlaethol.
Isod mae’r Ffurflen Gais. Gallwch safio eich ffurflen wrth i chi fynd ymlaen a pharhau rywbryd arall.
Y Dyddiad Cau ar gyfer ceisiadau yw 30 Ebrill 2026 (hanner nos).
Ffurflen Gais Gwobrau 2026
"*" yn nodi meysydd gofynnol