Mae Un Llais Cymru a Chymdeithas Clercod Cynghorau Lleol (SLCC) yn trefnu cynnal digwyddiad ar y cyd o bell ar ddydd Mercher 14 Mai 2025 (rhwng 10:00yb a 3:00yp) a bydd eich clerc eisoes wedi cael manylion y gwahoddiad a ddanfonwyd gan yr SLCC.
Bydd angen gwneud archebion trwy ddefnyddio’r we-ddolen ganlynol: SLCC | Fframweithiau Moesegol yng Nghymru a Lloegr (14 Mai)
Mae’r digwyddiad hwn yn un arbennig o bwysig i gynghorau gan ei fod yn edrych ar y fframweithiau moesegol yng Nghymru a Lloegr a bydd yn trafod y meysydd canlynol:
• Cael golwg ar warineb, parch, a safonau moesegol mewn cynghorau lleol
• Clywed gan arbenigwyr cyfreithiol, arweinyddion polisi, a chynrychiolwyr cynghorau
• Deall rôl swyddogion monitro a phwyllgorau safonau
• Dysgu am effaith ymddygiad moesegol gwael ar ddemocratiaeth
• Cymryd rhan mewn trafodaethau ar fynd i’r afael â bwlïo ac aflonyddu
Bydd gennym siaradwyr o swyddfa Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, Llywodraeth Cymru, Swyddogion Monitro ac o Un Llais Cymru a’r SLCC.
Cost archebu lle yw £65 a TAW ac mae’r digwyddiad yn agored i gynghorwyr a chlercod.
I gloi, byddwn yn eich annog yn gryf i fanteisio ar y cyfle hwn a chofrestru ar gyfer y digwyddiad gan fy mod yn sicr y bydd yn goleuo pawb fydd yn bresennol ar y datblygiadau diweddaraf sy’n effeithio’r sector yng nghyd-destun fframweithiau moesegol.
Yn gywir,
Lyn Cadwallader
Prif Weithredwr