DIGWYDDIAD AR Y CYD UN LLAIS CYMRU/SLCC – Dydd Mercher 18 Tachwedd 2026 – ARCHEBWCH EICH LLE - Un Llais Cymru
Mynd i'r cynnwys

Annwyl Gadeirydd/Clerc,

7 Medi 2026

DIGWYDDIAD AR Y CYD UN LLAIS CYMRU/SLCC – Dydd Mercher 18 Tachwedd 2026 – ARCHEBWCH EICH LLE

Mae Un Llais Cymru a Chymdeithas Clerciau Cynghorau Lleol (SLCC) yn trefnu digwyddiad ar-lein ar y cyd i’w gynnal ar 18 Tachwedd 2026, a bydd eich clerc eisoes wedi derbyn y manylion gwahoddiad a ddosbarthwyd gan yr SLCC.

Bydd angen archebu lle drwy ddefnyddio’r ddolen wê ganlynol: SLCC | SLCC & OVW Joint Event 2026


Mae’r digwyddiad hwn yn un arbennig o bwysig i gynghorau gan ei fod yn canolbwyntio ar bynciau allweddol fel blaenoriaethau’r dyfodol ar gyfer y sector cynghorau lleol, mynd i’r afael â’r diffyg iechyd democrataidd, diweddariad ar gyfraith cyflogaeth, materion yn ymwneud â’r côd ymddygiad, deallusrwydd artiffisial ac argyfwng costau byw. Dylech nodi ein bod yn gobeithio croesawu Sian Gwenllian AS, Gweinidog y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio yn y Senedd. Ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd y materion hyn, ac mae’r digwyddiad yn cynnig cyfle hanfodol i gynghorau fod ar flaen y gâd o ran materion a chyfleoedd cyfredol sydd ar gael i’n sector.

Yn ogystal â’r Prif Weithredwr a Chadeirydd Un Llais Cymru, a’n cymheiriaid o’r SLCC, mae gennym siaradwyr rhagorol wedi’u trefnu, gan gynnwys Shereen Williams, Prif Weithredwr Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru; Annie Ginwalla a Sarah Jones o Swyddfa’r Ombwdsmon; Emma Goode o Dîm Argyfwng Costau Byw Un Llais Cymru, a Lewis Anderson o ‘Lewis Anderson Enterprises’.

Mae cost y digwyddiad yn rhesymol iawn, rhywbeth a ddylai alluogi pob cyngor i ystyried archebu lle, ac rwy’n gobeithio’n fawr y caiff y digwyddiad gefnogaeth lawn gan gynghorau ym mhob rhan o Gymru. Mae’n agored i gynghorwyr yn ogystal â chlercod.

I gloi, hoffwn annog eich cyngor yn gryf i fanteisio ar y cyfle hwn ac ymuno â’r digwyddiad; rwy’n sicr y bydd yn rhoi gwybodaeth werthfawr i bawb sy’n bresennol am y datblygiadau diweddaraf sy’n effeithio ar y sector.

Mae rhagor o fanylion ar gael ar ein tudalen Digwyddiadau, Cynadleddau a Gweminarau ar y cyd.

Yn gywir,

Lyn Cadwallader
Prif Weithredwr