Digwyddiad
Cynhadledd Genedlaethol a Chyfarfod Cyffredinol Blynyddol 2025
Cynhelir ein Cynhadledd Genedlaethol flynyddol a Chyfarfod Cyffredinol Blynyddol eleni ar Faes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, ar ddydd Mercher 1 Hydref 2025. Mae Ffurflen Archebu ar gael isod!

Cynhelir Cynhadledd Flynyddol a Chyfarfod Cyffredinol Blynyddol Un Llais Cymru ar Faes y Sioe Amaethyddol ar ddydd Mercher 1 Hydref 2025.
Bydd y Gynhadledd yn cael ei rhannu rhwng dau adeilad fel yn y gorffennol; bydd y cofrestru, cinio ac arddangoswyr yn Neuadd Clwyd Morgannwg a bydd y Gynhadledd ei hun ym Mhafiliwn Sir Drefaldwyn sydd bellter byr i ffwrdd.
Cynhelir y Gynhadledd yn y bore ac yn dilyn Agenda ffurfiol a rhestr o siaradwyr, ac mae yn agored i aelod Gynghorau a chynghorau nad ydynt yn aelodau o Un Llais Cymru.
Yn y prynhawn byddwn yn cynnal ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol sydd yn agored i aelod Gynghorau yn unig.
Codir tâl ar gyfer y Gynhadledd ond gellir mynychu’r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yn rhad ac am ddim.
Gofynnir ichi lenwi’r ffurflen archebu isod, a byddwch wedyn yn derbyn anfoneb. Byddwn yn cynnig gostyngiad o 10% ar gyfer pob 3ydd archeb neu fwy. Byddwn angen eich ffurflen archebu os ydych yn mynychu’r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yn unig, fel y gallwn baratoi bathodynnau a phapurau.
Edrychwn ymlaen at dderbyn eich archeb, ac os oes gennych unrhyw ymholiadau cofiwch gysylltu: [email protected]
Agenda (PDF)
Ffurflen Archebu (Word)
Gwyliwch fideo ein Cynhadledd Genedlaethol 2024 yma: