Gweithdai Cynlluniau Gweithredu Bioamrywiaeth - Un Llais Cymru
Mynd i'r cynnwys

Cynlluniau Gweithredu Bioamrywiaeth –
gweithdai drwy gydol mis Ionawr 2026

Mae’r trydydd rownd adrodd Adran 6 nawr wedi cwblhau, a dylai pob Cyngor fod wedi cwblhau ei Adroddiad Adran 6 2025.

Mae’r rownd adrodd nesaf yn 2028. Mae rhaid i’ch Cyngor ysgrifennu a chyflwyno Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth (CGB) sy’n amlinellu’r gweithredoedd byddech yn cymryd i gyrraedd eich dyletswydd statudol Adran 6 dros y 3 blwyddyn nesaf.

Rydym yn awr yn cynnig 6 gweithdai ar-lein i helpu Cynghorau deall sut i ysgrifennu CGB am 2026-2028.

Bydd y gweithdai yma yn cael eu gynnal ar Microsoft Teams drwy gydol mis Ionawr 2026.

Gwelwch y ffurflen isod neu cliciwch islaw am wybodaeth:

Taflen Cynlluniau Gweithredu Bioamrywiaeth

Yn ystod pob gweithdy ar-lein bydd y Swyddogion Bioamrywiaeth yn dangos sut i ysgrifennu CGB i gyrraedd y ddyletswydd statudol, rhannu ffynonellau gwybodaeth a chyngor, ac ateb cwestiynau penodol ar sut i ysgrifennu CGB.

Ar ôl y gweithdai, os oes angen cymorth unigol, gall cynghorau cysylltu â ni.

Uchafswm o 40 Cyngor fydd yn gallu mynychu pob gweithdy, fel y gall pob Cyngor gael y gorau allan o’r sesiwn.

Dylech gofrestru i un gweithdy fesul Cyngor yn unig. Bydd hyn yn golygu y gall cymaint o Gynghorau â phosib mynychu’r gweithdai.

Er mwyn archebu lle ar un o’r gweithdai dylech wasgu ar eich dewis ddyddiad isod:

Gweithdy 1: 06.01.26 @6.30yh – 8yh

Gweithdy 2: 08.01.26 @11yb – 12.30yp

Gweithdy 3: 13.01.26 @6.30yh – 8yh

Gweithdy 4: 15.01.26 @12yp – 13.30yp

Gweithdy 5: 21.01.26 @13.30yp – 15.00yp

Gweithdy 6: 22.01.26 @6.30yh – 8yh

Unwaith bydd eich cofrestriad wedi cymeradwyo, byddwch yn derbyn e-bost efo dolen i’r cyfarfod. Gallwch rannu’r ddolen yma efo aelodau’r Cyngor.