Trafnidiaeth Gymunedol yng Nghymru: Atebion ar gyfer eich Trigolion
Dydd Iau 6 Tachwedd 10am- 12pm
Mae Tîm Argyfwng Costau Byw Un Llais Cymru yn falch o fod yn trefnu gweminar ar gyfer Cynghorau Cymuned a Thref. Gyda’r teitl ‘Trafnidiaeth Gymunedol yng Nghymru: Atebion ar gyfer eich Trigolion’, cynhelir y weminar ar ddydd Iau 6 Tachwedd 2025 10:00am-12:00pm.
Ymunwch â ni ar gyfer gweminar diddorol gyda phanel o Gynghorau sydd wedi llwyddo i gyflwyno neu wrthi’n datblygu cynlluniau trafnidiaeth gymunedol er mwyn mynd i’r afael â her enfawr sy’n wynebu pobl ledled Cymru.
Byddwch yn dysgu strategaethau ymarferol i wella symudedd yn eich ardal, yn gofyn cwestiynau, ac yn glywed gan gynghorau a chanddynt brofiad ymarferol. Os ydych yn dechrau o’r dechrau neu’n datblygu gwasanaethau sy’n bod yn barod, bydd y sesiwn hon yn cynnig arweiniad a syniadau i wneud gwahaniaeth go iawn i bobl eich cymuned.
I gofrestru ar gyfer y weminar hwn, cliciwch y ddolen isod:
Dydd Iau 6 Tachwedd 10:00am-12:00pm – Trafnidiaeth Gymunedol yng Nghymru: Atebion ar gyfer eich Trigolion