Gweminarau mis Hydref: Cynllun Gweithredu Atal Hiliaeth Cymru - Un Llais Cymru
Mynd i'r cynnwys

Gweminarau mis Hydref: Cynllun Gweithredu Atal Hiliaeth Cymru

Mae Un Llais Cymru yn falch o’ch gwahodd i gymryd rhan yn ein Gweminarau Cynllun Gweithredu Atal Hiliaeth Cymru, a drefnwyd i gyd-ddigwydd â Mis Hanes Du fis Hydref eleni.

Wedi’i drefnu gan ein Tîm Argyfwng Costau Byw, bydd y ddau weminar yn edrych ar sut all Cynghorau Cymuned a Thref gefnogi Cynllun Gweithredu Atal Hiliaeth Cymru (ARWAP) Llywodraeth Cymru. Byddwch yn clywed gan y Cyng Randell Thomas-Turner o Gyngor Tref Hwlffordd, am ei daith bersonol a’r camau a gymerodd ei gyngor i wreiddio atal-hiliaeth yn ei waith.

Bydd y gweminarau yn digwydd fel a ganlyn:

Dydd Iau 23 Hydref 2025 6:00pm–8:00pm
Dydd Iau 30 Hydref 2025 10:00am–12:00pm

Bydd y sesiynau yn cynnwys:

  • Rhagarweiniad gan Lyn Cadwallader, Prif Weithredwr Un Llais Cymru.
  • Trosolwg o ARWAP a beth mae’n ei olygu i gynghorau.
  • Anerchiad Randell a myfyrdodau ar yr hyn a wnaed hyd yn hyn.
  • Canllawiau ar ymgysylltu gyda chymunedau lleiafrifoedd ethnig mewn ffyrdd cynhwysol a pharchus.
  • Trafodaethau grŵp rhyngweithiol lle y bydd cynghorau yn disgrifio camau ymarferol y gellid eu cymryd.
  • C&A a chyfleoedd i rannu syniadau gyda chyd-gynghorwyr.
  • Hefyd, bydd pawb ar y gweminarau yn cael pecyn adnoddau yn cynnwys canllawiau a syniadau ymarferol

Cofrestrwch ar gyfer y weminar drwy glicio ar eich dyddiad dewisol, isod:

Dydd Iau 23 Hydref 2025 6:00-8:00pm

Dydd Iau 30 Hydref 10:00am-12:00pm