Hafan › Digwyddiadau › RSPB Gwylio Adar Yr Ardd 2026 – Mae cofrestru ar agor nawr!
RSPB Gwylio Adar Yr Ardd 2026 – Mae cofrestru ar agor nawr!
Dydd Gwener 23 – Dydd Sul 25 Ionawr 2026
Mae’r arolwg mwyaf yn y byd o fywyd gwyllt yr ardd yn ei ôl, a byddem wrth ein bodd petaech chi’n cymryd rhan! Dros un penwythnos ym mis Ionawr, bydd cannoedd ar filoedd o bobl sydd wrth eu bodd â byd natur yn dod at ei gilydd i gyfrif yr adar maen nhw’n gallu eu gweld yn eu gerddi, eu balconïau, eu hiardiau a’u parciau. Mae’n hwyl, yn rhad ac am ddim ac yn ffordd wych o gysylltu â byd natur.
Beth am annog eich cymuned i gymryd rhan, darparu neu rannu copïau o’r taflenni gofnodi a chanllaw adnabod, neu falle trefnu digwyddiad yn eich gofod gwyrdd lleol?