Manteision Aelodaeth
Edrychwch ar y buddion sydd ar gael i Aelod Gynghorau Un Llais Cymru:
Cyngor rhad ac am ddim – darparu cyngor cyfreithiol a chyngor cyffredinol mewn perthynas â gwella darpariaeth gwasanaeth.
Materion cyflogaeth – cymorth ac arweiniad ar ystod o faterion cyflogaeth.
Canllawiau ariannol – cymorth arbenigol ar holl faterion ariannol y cyngor.
Cyngor archwilio – cyngor cyffredinol ar faterion archwilio.
Cynrychiolaeth gyda Llywodraeth Cymru – Mae Un Llais Cymru yn gweithio’n agos gyda Gweinidogion a swyddogion y Llywodraeth sy’n golygu ein bod bob amser yn gwybod y diweddaraf am ddatblygiadau sy’n effeithio ar gynghorau. Rydym hefyd yn gweithio gydag ystod o bartneriaid eraill i hyrwyddo buddiannau cynghorau.
Cyrsiau hyfforddi a seminarau – gweler y tudalennau hyfforddi am fanylion llawn y cyrsiau a seminarau sydd i ddod.
E-fwletin – cyhoeddir e-fwletin rheolaidd a’i ddosbarthu i bob Cyngor ar draws Cymru, sy’n amlygu datblygiadau yn y sector ar lefel genedlaethol a lleol ac yn cynnig y wybodaeth a’r cyngor diweddaraf a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru a sefydliadau strategol eraill gan gynnwys Archwilio Cymru, CLlLC, SLCC, IRPW, Ombwdsmon ac ati.
E-Gylchlythyr – cyhoeddir e-gylchlythyr deufisol a’i ddosbarthu i aelod-Gynghorau, sy’n amlygu prosiectau enghreifftiol, astudiaethau achos, arfer da, cyfleoedd hyfforddi, digwyddiadau a gwybodaeth arall sy’n ymwneud â’r sector.
Cynhadledd Flynyddol – trefnir cynhadledd flynyddol ar gyfer ein haelodau, gan eu galluogi i glywed yn uniongyrchol am ddatblygu agendâu polisi a darparu gwasanaethau.
Arfer orau – casglu a rhannu gwybodaeth am arfer gorau i Gynghorau ar bob math o faterion.
Gwefan – yn llawn gwybodaeth ddefnyddiol i Gynghorau a Chynghorwyr yng Nghymru.
Cyngor ac arweiniad ar ymgynghoriadau allanol – rydym yn annog Cynghorau i ymateb i ni mewn perthynas ag ymarferion ymgynghori a gynhelir gan Lywodraeth Cymru ac eraill. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod barn Cynghorau Cymuned a Thref yn llywio penderfyniadau polisi pwysig.
Rhannu gwybodaeth gyda chynghorau eraill – anogir aelod-Gynghorau i rannu gwybodaeth am eu newyddion a’u gweithgareddau.
Cysylltwch â ni os hoffech drafod dod yn aelod blynyddol o Un Llais Cymru.