Cyfarfod â'r Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol - Un Llais Cymru
Mynd i'r cynnwys

Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol

Cyfarfod â Chadeirydd y Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol

Y Cynghorydd Mike Theodoulou

Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol yw’r Cynghorydd Mike Theodoulou o Gyngor Tref Pen-bre a Phorth Tywyn. Mae Mike hefyd yn Gadeirydd Un Llais Cymru.

Mae’r Cynghorydd Theodoulou yn arweinydd a Chadeirydd profiadol ar ôl bod yn Gadeirydd Sefydlu Siambr Cymru, rhan o’r bwrdd a oedd yn rheoli Amcan Un yng Nghymru.

Ef oedd cadeirydd y bartneriaeth a sefydlodd Cyllid Cymru, Banc Datblygu Cymru a gwasanaethodd ar bwyllgor Cronfa Loteri Fawr Cymru. Bu hefyd yn cynrychioli Cymru ar Gronfa’r DU yn ogystal â nifer o swyddi eraill yng Nghymru. 

Cyfarfod ag Is-Gadeirydd y Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol

Y Cynghorydd Gordon Hughes

Mae’r Cynghorydd Hughes wedi bod yn gysylltiedig â Chynghorau Cymuned a Thref ers 2017. Ar hyn o bryd, ef yw Is-gadeirydd Cyngor Tref Corwen. Mae ei brofiad hefyd yn cynnwys cynrychioli Cynghorau Cymuned a Thref ar Bwyllgor Safonau Cyngor Sir Ddinbych.

Ef yw trysorydd Amgueddfa Corwen ac mae’n gwirfoddoli gyda Llais, corff statudol annibynnol, a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru i roi llais i bobl Cymru yn y broses o gynllunio a darparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.