Adolygiadau Ffiniau Cymunedol
Yn dilyn y gweminarau diweddar a drefnwyd gennym ar y cyd â Chymdeithas Clercod Cynghorau Lleol, rydym wedi creu tudalen we Adolygiadau Ffiniau Cymunedol ddynodedig ar gyfer ein Cynghorau Aelod, gyda’r dogfennau allweddol canlynol:
- Canllawiau Llywodraeth Cymru ar reoli elfennau proses newidiadau ffiniau cymunedol.
- Y cyflwyniad a wnaed yn y weminar ar oblygiadau Rheoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) (TUPE).
- Y cyflwyniad a wnaed yn y weminar ar elfennau eraill y mae angen rhoi sylw iddynt fel rhan o’r broses weithredu.
Rydym yn derbyn na fydd pob cyngor sy’n derbyn yr ohebiaeth hon yn cael eu heffeithio gan adolygiadau ffiniau cymunedol, ac o’r herwydd dylai cynghorau nad ydynt yn cael eu heffeithio dderbyn yr ohebiaeth hon er gwybodaeth yn unig.