Angen Aelod Annibynnol o’r Pwyllgor Archwilio - Un Llais Cymru
Mynd i'r cynnwys

Mae gan Un Llais Cymru le gwag i aelod Annibynnol i eistedd ar ein Pwyllgor Archwilio.

Dylai’r aelod Annibynnolddod o un o’n haelod Gynghorau ond ni ddylent fod yn aelodau o’r Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol ar hyn o bryd.

Mae’r Pwyllgor Archwilio yn cyflawni rôl bwysig yn cynnal amgylchedd rheolaeth fewnol Un Llais Cymru. Mae’n gyfrifol am graffu ar ein gweithgareddau ariannol, archwilio a rhai allai beri risg. Mae’r priodweddau allweddol yn cynnwys ymwybyddiaeth ariannol gan gynnwys y gallu i ddarllen a deall cyfrifon ac adroddiadau ariannol, dealltwriaeth o lywodraethiant corfforaethol cadarn, y gallu i gwestiynu a chraffu’n adeiladol a meddwl annibynnol.

Mae rhagor o fanylion am waith y pwyllgor i’w gweld yma.

Dylid danfon enwebiadau at Paul Egan [email protected] erbyn 30 Mai 2025. Gall Paul helpu hefyd gydag unrhyw ymholiadau eraill am waith y pwyllgor.