Adroddiad a'r Ymateb i adroddiad y Senedd ar Rôl, Llywodraethu ac Atebolrwydd y Sector Cynghorau Cymuned a Thref - Un Llais Cymru
Mynd i'r cynnwys

Daeth ymchwiliad mawr i’r sector Cynghorau Cymuned a Thref i ben gyda chyhoeddi adroddiad o’i ganfyddiadau.

Cyhoeddodd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai (Senedd Cymru) ei adroddiad llawn ar 5 Mawrth 2025. Mae’r adroddiad i’w weld isod:

Cyflwynodd Un Llais Cymru dystiolaeth ysgrifenedig fanwl i’r ymchwiliad ac ymddangosodd gerbron y pwyllgor. Cyflwynodd llawer o Gynghorau Cymuned a Thref dystiolaeth hefyd.

Dywedodd y Cynghorydd Mike Theodoulou, Cadeirydd Un Llais Cymru, “Ar y cyfan rwy’n croesawu’r adroddiad hwn, sy’n ceisio gwella gallu’r sector Cynghorau Cymuned a Thref.”

Mae Un Llais Cymru yn edrych ymlaen at weld ymateb Llywodraeth Cymru i’r darn helaeth hwn o waith.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb i’r adroddiad.

Cafodd yr adroddiad ei drafod yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 21 Mai 2025 ac mae ar gael i’w wylio ar ‘Senedd.TV‘,

Mae dolen i fersiwn Gymraeg ymateb Llywodraeth Cymru yma: