Digwyddiad Rhanddeiliaid Coffáu COVID-19
Cafodd Un Llais Cymru y fraint o fynychu Digwyddiad Rhanddeiliaid Coffáu yr wythnos hon yng Nghaerdydd. Roedd y digwyddiad yn cynnwys trosolwg o Raglen Goffáu COVID-19 gyda ffocws ar Ddiwrnod Myfyrio COVID-19, cofebau, a straeon o’r pandemig.
Rhannodd cynrychiolwyr o Teuluoedd Galarus Covid er Cyfiawnder (Covid-19 Bereaved Families for Justice Cymru) fanylion eu grŵp a pham roedd coffáu’r pandemig mor bwysig. Ymunodd Ceri Williams (TUC Cymru), Kate Rees (Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru) a Gwilym Roberts-Harry (Amgueddfa Cymru) â ni hefyd a ddisgrifiodd sut roedd eu sefydliadau’n rhan o goffáu pandemig COVID-19.