Fframweithiau Moesegol yng Nghymru a Lloegr
Cynhaliodd Un Llais Cymru a Chymdeithas Clercod Cynghorau Lleol (SLCC) ddigwyddiad pwysig yn ddiweddar i archwilio datblygiadau allweddol, heriau, ac arfer gorau wrth gynnal safonau uchel mewn llywodraethu lleol.
Roedd pwysigrwydd safonau moesegol uchel yng Nghymru wedi’i amlygu mewn astudiaethau diweddar fel Ymchwiliad y Senedd i rôl, llywodraethu ac atebolrwydd y sector cynghorau cymuned a thref.
Yn ei sylwadau agoriadol, disgrifiodd Prif Weithredwr Un Llais Cymru, Lyn Cadwallader, y fframwaith moesegol yng Nghymru ac edrychodd ymlaen at rannu profiadau ag eraill.
Roedd y siaradwyr yn cynnwys cynrychiolwyr o Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, Swyddogion Monitro, Llywodraeth Cymru ac Un Llais Cymru.
Bu cynrychiolwyr yn ystyried effaith ymddygiad moesegol gwael ar ddemocratiaeth, gwydnwch emosiynol, a gwareiddiad a pharch. Bu cydweithwyr hefyd yn trafod ffyrdd o fynd i’r afael â bwlio ac aflonyddu.
Ymhlith y materion eraill a godwyd roedd y twf mewn Cyfryngau Cymdeithasol, effaith Cynghorwyr newydd eu hethol ac opsiynau i ddatblygu hyfforddiant gorfodol.
Cadarnhaodd y digwyddiad ar-lein ddyletswydd pob parti i gynnal safonau moesegol uchel a dangos parch at ei gilydd.
Am rhagor o wybodaeth am ein digwyddiadau ar y cyd, ewch i’n tudalen Digwyddiadau, Cynadleddau a Gweminarau ar y Cyd.