Helpwch ddiogelu ein treftadaeth fyw Gymreig - Un Llais Cymru
Mynd i'r cynnwys

Helpwch ddiogelu ein treftadaeth fyw Gymreig: gwahoddiad i gyfrannu at Restr Dreftadaeth Fyw newydd y DU

Mae cymunedau ledled Cymru yn chwarae rhan annatod yn cadw ein treftadaeth yn fyw. Mae hi’n bosib y byddwch eisoes yn ymwybodol bod Llywodraeth y DU – mewn cydweithrediad â Llywodraeth Cymru – wedi lansio Rhestr Dreftadaeth Fyw yn y DU, fel rhan o’r ymrwymiad i Gonfensiwn 2003 UNESCO ar Ddiogelu Treftadaeth Ddiwylliannol Anniriaethol.
Dyma’r tro cyntaf i Gymru gael cofrestr genedlaethol o arferion diwylliannol byw, ac mae’n gyfle pwysig i sicrhau bod y traddodiadau a’r sgiliau a welir yn ein cymunedau yn cael eu cydnabod yn ffurfiol, eu dathlu, a’u cefnogi ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Pam bod eich cyfraniad yn bwysig?
Pwrpas y rhestr yw i:

  • ddiogelu treftadaeth fyw drwy gydnabod ymarferion y mae cymunedau yn eu gwerthfawrogi ac eisiau eu cynnal
  • gynyddu ymwybyddiaeth genedlaethol a rhyngwladol o gyfoeth ac amrywiaeth bywyd diwylliannol Cymru
  • gefnogi cymunedau i drosglwyddo gwybodaeth, sgiliau, a thraddodiadau
  • gryfhau’r achos dros gymorth, adnoddau, a chydnabyddiaeth ar gyfer traddodiadau yn y dyfodol
  • greu cofnod cyhoeddus sydd yn adlewyrchu gwirionedd diwylliant Cymreig, dim nid dim ond ei sefydliadau

    Mae arweiniad DCMS yn pwysleisio bod y gofrestr i fod yn syml, ac yn seiliedig ar leisiau ein cymunedau. Felly, mae’n rhaid i’r ceisiadau ddod gan yr ymarferwyr eu hunain – sy’n golygu bod grwpiau fel eich un chi’n ganolog i’r broses hon.
    Sut i gyflwyno cais
    Mae cyflwyno eitem yn syml ac yn digwydd mewn tri cham:
  1. Mynegi diddordeb (dewisol)
    Y man cychwyn yw cwblhau ffurflen fer ar-lein gyda gwybodaeth syml am yr ymarfer (beth yw’r ymarfer, pwy sy’n ei ymarfer, ble mae’n digwydd, a pham bod o’n bwysig). Nid yw’r cam hwn yn eich ymrwymo i gyflwyno cais llawn.
  2. Gwylio’r gweithdy
    Ar ôl cyflwyno Datganiad Diddordeb, mae’n rhaid i chi wylio rhan gyntaf gweithdy (mae hwn ar gael ar ffurf fideo ar-lein). Gallwch hefyd fynychu gweithdy llawn os oes gennych gwestiynau. Mae’r gweithdai hyn yn esbonio’r broses, cysyniad cymunedol, a sut i gwblhau’r cais terfynol.
  3. Cwblhau’r cais terfynol
    Ar ôl gwylio’r rhan angenrheidiol o’r gweithdy, gallwch barhau gyda’r cais drwy lenwi’r ffurflen gais lawn. Mae’r ffurflen hon yn gofyn am ragor o fanylion ar yr ymarfer, ac yn fwy cynhwysfawr na’r Datganiad Diddordeb. Gallwch lenwi’r ffurflen hon yn eich amser eich hunain, gan ddilyn y canllawiau ar y wefan.
    Nid oes angen paratoi dogfennau hir na chyflwyno tystiolaeth hanesyddol – adlewyrchu ymarferion byw a chyfredol yw’r nod.

Mae’r ffenestr ar gyfer ceisiadau terfynol yn cau ar 27 Mawrth, felly os ydych yn bwriadu cyflwyno elfen o dreftadaeth fyw yn ystod y cyfnod hwn, mae’n bwysig dechrau’r broses cyn gynted â phosibl. Rydym yn cysylltu gydag ystod eang o grwpiau ledled Cymru sydd yn ymarfer neu’n diogelu elfennau unigryw o dreftadaeth fyw Cymru, a byddem yn hapus i drafod hyn gyda chi, ac i’ch cefnogi wrth baratoi Datganiad o Ddiddordeb.

Mae’r holl fanylion ar gael ar y wefan (https://livingheritage.unesco.org.uk/cy), ac mae croeso i chi gysylltu drwy e-bostio [email protected] neu [email protected] am ragor o gyngor.