Helpwch Ni i Ddangos Effaith Gwaith Cynghorau – Arolwg Effaith Gymdeithasol  - Un Llais Cymru
Mynd i'r cynnwys

Helpwch Ni i Ddangos Effaith Gwaith Cynghorau – Arolwg Effaith Gymdeithasol 

Mae Gwaith Eich Cyngor yn Bwysig – Llanwch yr Arolwg Costau Byw 

Annwyl Glerc / Cynghorydd, 

Rydym yn falch o rannu’r Arolwg Effaith Gymdeithasol, y mae Un Llais Cymru wedi comisiynu Wavehill i’w gynnal ar ein rhan.  

Bydd yr arolwg hwn yn ein helpu i adeiladu darlun cenedlaethol o sut mae Cynghorau Cymuned a Thref wedi cefnogi pobl leol yn ystod yr argyfwng costau byw

Mae hwn yn ymchwil hollbwysig ar gyfer y sector. Bydd yn ein galluogi i ddangos yn glir: 

  • maint, ystod ac effaith gweithgarwch Cynghorau 
  • sut mae Cynghorau wedi cynnal gwytnwch cymunedol a llesiant 
  • a gwerth y gwaith hwn i Lywodraeth Cymru a phartneriaid allweddol 


Gyda’i gilydd, bydd y dystiolaeth hon yn helpu sicrhau bod Cynghorau Cymuned a Thref yn cael y gydnabyddiaeth, y dylanwad a’r adnoddau maen nhw’n eu haeddu. 

Beth rydym ei angen gennych chi:

Rydym yn gofyn i bob Cyngor lenwi’r arolwg gyda chymaint o fanylion ag y gallant

  • Gall y Clerc lenwi’r arolwg ac nid oes angen iddo fynd i gyfarfod Cyngor llawn. 
  • Gallwch holi cydweithwyr neu Gynghorwyr i helpu darparu gwybodaeth. 

Mae cefnogaeth ar gael:

Cymerwch foment i wylio’r neges fer gan ein Prif Weithredwr, Lyn Cadwallader, isod, yn esbonio pam mae’r arolwg hwn mor bwysig:


Byddwn hefyd yn cynnal rhywfaint o sesiynau galw heibio ar-lein ar gyfer unrhyw un sydd angen arweiniad, eglurhad neu gymorth i lanw’r arolwg:

Sesiynau Galw Heibio:

Dydd Iau Tachwedd 13eg 1-2pm

Dydd Llun Tachwedd 17eg 6-7pm

Dydd Mercher Tachwedd 19eg 1-2pm

Dydd Mawrth Tachwedd 25ain 1-2pm

Dydd Iau Tachwedd 27ain 6-7pm


Cliciwch y botwm ar gyfer y ddolen i’r Arolwg, isod:

PDF o Gwestiynau’r Arolwg

Diolch ichi ymlaen llaw am eich cyfraniad.

Trwy ymateb, rydych yn ein helpu i adrodd gwir stori effaith gwaith Cynghorau a chryfhau llais y sector ar lefel genedlaethol.

Diolch ichi am eich cefnogaeth ac am bopeth a wnewch.

Cofiwch gysylltu os ydych angen unrhyw help neu gymorth: [email protected]