Un Llais Cymru yn falch o gefnogi digwyddiadau coffáu Diwrnod VE 80 - Un Llais Cymru
Mynd i'r cynnwys

Un Llais Cymru yn falch o gefnogi digwyddiadau coffáu Diwrnod VE 80

Roedd Un Llais Cymru yn falch o gael ei gynrychioli mewn gwasanaeth o ddiolchgarwch i nodi 80 mlynedd ers Diwrnod VE, a gynhaliwyd yn Eglwys Gadeiriol Llandaf, Caerdydd ar 7 Mai 2025.

Roedd y gwasanaeth eciwmenaidd yn dathlu cyfraniad llawer o gymunedau ledled Cymru yn ystod yr Ail Ryfel Byd ac yn cofio’r aberth a wnaed gan gynifer. Heddwch, cytgord, parch, a chanmoliaeth oedd negeseuon allweddol y digwyddiad dwyieithog hwn.

Roedd y gynulleidfa yn cynnwys y Gwir Anrh. Arglwydd Faer Caerdydd, Prif Weinidog Cymru, pwysigion dinesig eraill, arweinwyr eglwysig a chyn-filwyr.  Roedd cynrychiolwyr o sawl rhan o Gymru yn bresennol. Ychwanegodd anthemau cyffrous a darlleniadau meddylgar at naws y digwyddiad.