Un Llais Cymru yn lansio ei Maniffesto 2026-2031
Heddiw, 5 Mawrth 2026, mae Un Llais Cymru yn lansio ei Maniffesto ar gyfer y sector Cynghorau Cymuned a Thref yng Nghymru cyn yr etholiad i’r Senedd ym mis Mai eleni.
Rydym wedi nodi isod sut y gall gweithio gyda’r sector Cynghorau Cymuned a Thref helpu i fynd i’r afael â’r materion hollbwysig hyn a sut y gall y llywodraeth newydd gefnogi’r sector trwy gefnogi’r ‘5 Gofyniad’ canlynol:
1. Ymrwymo i fwrw ymlaen ag argymhellion Adroddiad Ymchwiliad y Senedd (Mawrth 2025) i rôl, llywodraethu ac atebolrwydd y sector Cynghorau Cymuned a Thref
2. Grymuso Cymunedau
3. Cyllido Amrywiol
4. Cryfhau Arweinyddiaeth Leol
5. Meithrin Capasiti a Gallu
Mae’r angen am weithredu yn nhymor nesaf y Senedd yn glir.
Gallwch ddarllen ein maniffesto yma.