Cyfleoedd - Un Llais Cymru
Mynd i'r cynnwys

Mae Un Llais Cymru yn cynnig cyfleoedd nawdd gwerthfawr. Gallwn gynnig nawdd i ddigwyddiadau ar gyfer ein cyfres o gynadleddau a digwyddiadau cenedlaethol blynyddol, hysbysebion yn ein cyhoeddiadau ac adroddiadau ar ôl y digwyddiad, ac ar ein llwyfannau cyfryngau cymdeithasol ar gyfer gwahanol ddigwyddiadau a gweithgareddau hyrwyddo.

Mae’r rhain yn gyfleoedd delfrydol i hyrwyddo’ch sefydliad i’n Haelod Gynghorau ledled Cymru.

Os oes gennych ddiddordeb yn unrhyw un o’r cyfleoedd uchod, e-bostiwch Maria Mulcahy: [email protected] neu ffoniwch hi ar 01269 595400. Cysylltwch nawr i ddarganfod mwy!

Cyfleoedd Masnachol

Cysylltwch â ni am sgwrs anffurfiol am y cyfleoedd masnachol y gallwn eu cynnig i gwmnïau preifat a sefydliadau cyhoeddus gan gynnwys mannau arddangos yn ein digwyddiadau blynyddol mawr a chynadleddau lle gall cyflenwyr hyrwyddo eu cynnyrch a’u gwasanaethau, yn ogystal â gweminarau ar y cyd â phartneriaid strategol ac yn ein cyhoeddiadau rheolaidd i’r sector.

Rydym yn cynnig prisiau rhesymol am y gwasanaethau hyn – cysylltwch â ni i drafod ymhellach. Isod mae ein Llyfryn Cyfleoedd Masnachol diweddaraf (Saesneg yn unig ar hyn o bryd):
Llyfryn Cyfleoedd Masnachol 2024/25

Dyma ein Rhestr Brisiau cyfredol (Saesneg yn unig ar hyn o bryd).

Os oes gennych ddiddordeb yn unrhyw un o’r cyfleoedd uchod, e-bostiwch Maria Mulcahy: [email protected] neu ffoniwch y swyddfa ar 01269 595400. Cysylltwch nawr i ddarganfod mwy!

Cynadleddau a Digwyddiadau Cenedlaethol

Mae Un Llais Cymru yn gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid strategol a rhanddeiliaid i gynnig amrywiaeth o ddigwyddiadau pwysig i Gynghorau Cymuned a Thref o bob rhan o Gymru. Rydym yn adeiladu ar berthnasoedd masnachol sydd wedi’u hen sefydlu gyda chyflenwyr allweddol i’r sector cynghorau lleol yng Nghymru.

Edrychwch ar ein digwyddiadau sydd i ddod ar ein Calendr ar-lein, yn ogystal â mwy o wybodaeth ar ein tudalen Digwyddiadau.

Cyfleoedd Eraill

Mae Un Llais Cymru yn cynnig cyfleoedd gwerthfawr i gyflenwyr farchnata eu cynnyrch a’u gwasanaethau i dros 732 o Gynghorau Cymuned a Thref yng Nghymru. Gellir cyflawni hyn trwy brynu gofod gwe o dan ein Cyfeiriadur Cyflenwyr, trwy archebu gofod arddangos yn ein Cynadleddau a digwyddiadau mawr, yn ogystal ag yn ein 16 Pwyllgor Ardal a gynhelir mewn cymunedau ledled Cymru. Mae hwn yn gyfle delfrydol i farchnata’ch sefydliad i’n Haelod Gynghorau y mae dros 92% ohonynt yn aelodau blynyddol gyda ni.

Cysylltwch â ni am sgwrs anffurfiol am y gyfres o gyfleoedd noddi sydd gennym i’w cynnig, gan gynnwys digwyddiadau blynyddol mawr, cynadleddau, gweminarau, gweminarau ar y cyd â phartneriaid strategol, cyfarfodydd rhanbarthol Pwyllgorau Ardal (Gogledd Cymru, Canolbarth a Gorllewin Cymru, a De Cymru), cyfarfodydd ar-lein, ac yn ein cyhoeddiadau rheolaidd i’r sector cynghorau lleol yng Nghymru. Mae cyfleoedd hefyd i noddi Categori Gwobr fel rhan o’n Cynhadledd Gwobrau Cenedlaethol flynyddol fawreddog.

Rydym yn cynnig prisiau rhesymol am y gwasanaethau hyn – cysylltwch â ni i drafod ymhellach. Os oes gennych chi ddiddordeb yn unrhyw un o’r cyfleoedd uchod, e-bostiwch Maria Mulcahy: [email protected]
neu ffoniwch 01269 595400. Cysylltwch nawr i ddarganfod mwy!