Cynadleddau a Digwyddiadau - Un Llais Cymru
Mynd i'r cynnwys

Ein cynadleddau a’n digwyddiadau

Mae Un Llais Cymru yn trefnu nifer o ddigwyddiadau cenedlaethol mawr drwy gydol y flwyddyn galendr.

Cynhelir ein Cynhadledd Gwobrau Cenedlaethol bob Gwanwyn, y Gynhadledd Arfer Arloesol ddechrau mis Gorffennaf, rydym yn trefnu digwyddiadau ar-lein ychwanegol a gweminarau rhwng mis Mawrth a mis Tachwedd, a chynhelir ein Cynhadledd Genedlaethol flynyddol yn ystod mis Hydref.

Cynhaliom ni ddigwyddiad dathlu dwbl arbennig unwaith ac am byth fel rhan o’n Cynhadledd Genedlaethol ym mis Hydref 2024. Roedd hyn i ddathlu ein pen-blwydd yn 20 oed (2004-2024) ac i gyd-fynd â’r 50 mlynedd ers ffurfio Cynghorau Cymuned a Thref yng Nghymru (1974-2024). Fel rhan o’r dathliadau hyn, fe wnaethom gomisiynu ffotograffydd a fideograffydd swyddogol (a chael cacen pen-blwydd!). Gallwch weld uchafbwyntiau’r diwrnod isod:

Fideo Cynhadledd Genedlaethol 2024 (Steel Wall Photography)

Rydym wedi cynnal digwyddiadau cenedlaethol mawr dros y blynyddoedd diwethaf gan gynnwys ein Cynadleddau Cenedlaethol Blynyddol, y Cynadleddau Arfer Arloesol, ein Gwobrau Cenedlaethol a digwyddiadau strategol eraill ar gyfer y Sector Cynghorau Cymuned a Thref yng Nghymru.

Darllenwch ein hadroddiad ar Gynhadledd Gwobrau 2024 isod:

Adroddiad Cynhadledd Gwobrau Blynyddol 2024

Ewch i’n sianel You Tube i wylio cyfres o recordiadau fideo.

DIGWYDDIAD AR Y CYD RHWNG UN LLAIS CYMRU/SLCC ar FFRAMWEITHIAU MOESEGOL YNG NGHYMRU A LLOEGR – Dydd Mercher 14 Mai 2025 – ARCHEBWCH EICH LLE

Mae Un Llais Cymru a Chymdeithas Clercod Cynghorau Lleol (SLCC) yn trefnu cynnal digwyddiad ar y cyd o bell ar ddydd Mercher 14 Mai 2025 a bydd eich clerc eisoes wedi cael manylion y gwahoddiad a ddanfonwyd gan yr SLCC.

Bydd angen gwneud archebion trwy ddefnyddio’r we-ddolen ganlynol: SLCC | Fframweithiau Moesegol yng Nghymru a Lloegr (14 Mai)

Mae’r digwyddiad hwn yn un arbennig o bwysig i gynghorau gan ei fod yn edrych ar y fframweithiau moesegol yng Nghymru a Lloegr a bydd yn trafod y meysydd canlynol:

•         Cael golwg ar warineb, parch, a safonau moesegol mewn cynghorau lleol

•         Clywed gan arbenigwyr cyfreithiol, arweinyddion polisi, a chynrychiolwyr cynghorau

•         Deall rôl swyddogion monitro a phwyllgorau safonau

•         Dysgu am effaith ymddygiad moesegol gwael ar ddemocratiaeth

•         Cymryd rhan mewn trafodaethau ar fynd i’r afael â bwlïo ac aflonyddu

Bydd gennym siaradwyr o swyddfa Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, Llywodraeth Cymru, Swyddogion Monitro ac o Un Llais Cymru a’r SLCC.

Cost archebu lle yw £65 a TAW ac mae’r digwyddiad yn agored i gynghorwyr a chlercod.