Cynadleddau a Digwyddiadau
Cynhadledd Arfer Arloesol
Rydym yn trefnu Cynhadledd Arfer Arloesol genedlaethol yn flynyddol.
Isod mae rhagor o wybodaeth am ein Cynhadledd Arfer Arloesol flynyddol a sut i gymryd rhan.
Cadwch y Dyddiad!
Yn draddodiadol, rydym wedi trefnu ein Cynhadledd Arfer Arloesol genedlaethol bob mis Gorffennaf. Fodd bynnag, ar gyfer 2026 rydym wedi aildrefnu ein digwyddiadau mawr, felly eleni cynhelir ein Cynhadledd Arfer Arloesol ddydd Mercher 30 Medi 2026 yn Hafod a Hendre, Maes Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru, Llanelwedd.
Bydd rhagor o wybodaeth yn ymddangos isod yn fuan iawn.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â’n Cynhadledd Arfer Arloesol, cysylltwch â Tracy Gilmartin: [email protected] neu ffoniwch y swyddfa ar 01269 595400.
Cysylltwch â ni os hoffech gymryd rhan mewn digwyddiadau yn y dyfodol, neu os hoffech noddi’r digwyddiad neu os hoffech gael stondin arddangos yn ein digwyddiadau. Gallwch hefyd ddarllen mwy ar ein tudalen Cyfleoedd.
Cynadleddau Blaenorol
Cynhadledd Arfer Arloesol 2025
Cynhaliwyd ein Cynhadledd Ymarfer Arloesol 2025 yn Llanfair-ym-Muallt ddydd Mercher 2 Gorffennaf 2025.
Teitl y gynhadledd oedd: ‘Cynllunio ymlaen llaw ar gyfer dyfodol heriol’.
Civic.ly oedd Prif Noddwyr ein Cynhadledd eleni ac rydym yn hynod ddiolchgar am eu cefnogaeth a’u brwdfrydedd.

Isod mae copi o Agenda’r Gynhadledd:
Dyma gopi o’n Datganiad i’r Wasg:
Dyma rhai lluniau o’r Gynhadledd:
Os oes gennych ddiddordeb mewn noddi, arddangos, cyflwyno neu siarad yn y Gynhadledd Arfer Arloesol
eleni, Cysylltwch â Ni cyn gynted â phosibl i drafod y Cyfleoedd sydd ar gael neu i siarad ag un o’r tîm.
Cynhadledd Arfer Arloesol 2024
Roedd cynhadledd 2024 yn ymwneud ag arfer arloesol, a’r teitl oedd “Mynd i’r afael ag anghenion amrywiol ein cymunedau.” Anogodd Cadeirydd Un Llais Cymru y cynadleddwyr i roi eu cymunedau’n gyntaf, blaenoriaethu trigolion drwy wrando ar eu hanghenion, dysgu am yr arfer da a ddarperir ledled Cymru a hyrwyddo’r profiadau hynny o fewn eu cymunedau.
Isod mae copi o’n Hadroddiad Cynhadledd Arfer Arloesol 2024.
Cysylltwch â ni os hoffech gymryd rhan yn nigwyddiadau yn y dyfodol, neu os hoffech noddi’r digwyddiad neu gael stondin arddangos yn y digwyddiad cenedlaethol mawr hwn.
Os oes gennych ddiddordeb mewn noddi, arddangos, cyflwyno neu siarad yn ein cynadleddau yn y dyfodol, Cysylltwch â Ni cyn gynted â phosibl i drafod y Cyfleoedd sydd ar gael neu i siarad ag un o’r tîm.