Cynadleddau a Digwyddiadau
Cynhadledd Gwobrau Cenedlaethol
Rydym yn trefnu Digwyddiad Gwobrau Cenedlaethol yn flynyddol, a gynhelir ar Faes Sioe Frenhinol Cymru yn Llanelwedd, ger Llanfair-ym-Muallt.

Cynhadledd Gwobrau Un Llais Cymru – 30 Ebrill 2025
Cynhaliwyd Cynhadledd Gwobrau Un Llais Cymru ddydd Mercher 30 Ebrill 2025 yn Hafod a Hendre, Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, LD2 3SY. Mae’r gwobrau hyn yn gyfle i Gynghorau Cymuned a Thref arddangos y gwasanaethau y mae’n eu darparu ar gyfer eu cymunedau, ac yn gyfle i Gynghorwyr, Clercod a staff dderbyn y gydnabyddiaeth y maent yn ei haeddu.
Rydym yn ddiolchgar iawn am ein Prif Noddwyr eleni Unity Trust Bank, ac rydym yn hynod ddiolchgar am eu cefnogaeth a’u brwdfrydedd.
Darllenwch ein Hadroddiad Cynhadledd Gwobrau Cenedlaethol 2025 isod:




Darllenwch ein dogfen gryno Astudiaethau Achos 2025 isod, sy’n amlygu holl brosiectau llwyddiannus y Cynghorau o bob rhan o Gymru:
Darllenwch ein Datganiad i’r Wasg am lawer mwy o wybodaeth am y digwyddiad llwyddiannus hwn.
















Bydd y prosiectau yn cael eu defnyddio fel sail tystiolaeth i hysbysu Llywodraeth Cymru, Awdurdodau Unedol, y Trydydd Sector a phartneriaid allweddol eraill am y gwaith da y mae Cynghorau yn ei wneud yn eu cymunedau ledled Cymru a sut y gallant gefnogi gwaith y sector cynghorau lleol yn y dyfodol.
Fel rhagor o wybodaeth, dyma gopi o’r Canllaw Enwebu 2025 oedd yn rhestru’r categorïau gwobrau a manylion am sut i enwebu Cyngor ar gyfer y gwobrau mawreddog:
Sefydlwyd panel annibynnol sy’n cynnwys cyrff cynrychioliadol cenedlaethol i feirniadu’r ceisiadau. Gwahoddir y Cynghorau ar y rhestr fer ar gyfer pob categori i arddangos eu prosiectau ar ddiwrnod y Gynhadledd.
Yn ystod y Seremoni Wobrwyo, roedd yr enillwyr yn cael eu cyflwyno â’u gwobrau a’u tystysgrifau. Bydd Un Llais Cymru hefyd yn cyhoeddi adroddiad ar ôl y digwyddiad i’w rannu â chynghorau lleol a sefydliadau rhanddeiliaid ledled Cymru.
Dyma gopi o Agenda 2025 a thaflen 2025:
Hoffwn ddiolch i chi am y Gynhadledd ddoe, mi wnaeth bob un ohonom fwynhau ein hunain, a phob un ohonym wedi dysgu rhywbeth newydd.
Nia Owen-Midwood,
Wir, roedd y gwobrwyon yn agoriad llygaid i ni.
Roeddwn yn llawn syniadau wedi dwad adra.
Roedd y digwyddiad wedi bod o fydd i ni.
Pwy fyddai’n meddwl y byddai Cyngor Cymuned Buan, sy’n Gyngor bach ofnadwy wedi ennill y gwobrau ddoe….
Clerc Cyngor Cymuned Buan
Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â Chynhadledd Gwobrau Un Llais Cymru, cysylltwch ag Emyr John, Swyddog Cyfathrebu: [email protected] neu ffoniwch y swyddfa ar 01269 595400.
Cysylltwch â ni os hoffech gymryd rhan yn nigwyddiadau Gwobrau Cenedlaethol yn y dyfodol, neu os hoffech noddi’r digwyddiad neu wobr, neu os hoffech gael stondin arddangos yn y digwyddiad mawreddog hwn. Darllenwch fwy ar ein tudalen Cyfleoedd.
Isod mae adroddiad Gwobrau Cenedlaethol 2024 ac Astudiaethau Achos o enillwyr y gwobrau: