Annwyl gydweithiwr,
Gweler isod neges gan yr Adran Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon am Ddiwrnod o Fyfyrdd Covid-19 eleni ar 8 Mawrth 2026.
Mae Diwrnod Myfyrdod COVID-19 yn cynnig cyfle i gofio’r rhai rydyn ni wedi’u colli a chydnabod gweithredoedd o wasanaeth.
Mae’r Diwrnod bellach lai na wythnos i ffwrdd ar ddydd Sul 8 Mawrth, ac rydym wedi ychwanegu’r canlynol at ein gwefan:
- Mae’r map rhyngweithiol yn fyw – os nad ydych wedi ychwanegu eich digwyddiad neu le ar gyfer myfyrio eto, gallwch wneud hynny yma.
- Rydym wedi lansio ein pecyn cymorth – mae’n cynnwys gwybodaeth am y diwrnod a rhai syniadau ar sut i gymryd rhan os hoffech chi wneud hynny.
Gall digwyddiadau ar y map ddigwydd ar neu o gwmpas y Diwrnod; gallant fod yn gyhoeddus neu’n breifat, ac yn amrywio o gynulliadau i fannau tawel.
Darganfyddwch fwy ar dudalennau gwe Coffáu Covid sy’n cynnwys cyfres o hanesion llafar, deunyddiau addysgol a manylion am gofebion.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â [email protected]