“Gwella ein Lleoedd Lleol – Astudiaethau Enghreifftiol a Diweddariadau Cynllunio o Gymru” - Un Llais Cymru
Mynd i'r cynnwys

Un Llais Cymru a Chymorth Cynllunio Cymru –
Digwyddiad Ar-lein ar y Cyd

“Gwella ein Lleoedd Lleol – Astudiaethau Enghreifftiol a Diweddariadau Cynllunio o Gymru”

Dyddiad: 19 Mawrth 2026, 10:30yb–1:30yp (ar-lein: Teams)
£53 yr un

Rydym yn falch iawn o gyhoeddi fod Un Llais Cymru a Chymorth Cynllunio Cymru wedi dod at ei gilydd unwaith eto i drefnu digwyddiad ar y cyd ar gyfer Cynghorau Cymuned a Thref, fydd yn galluogi Cynghorwyr a Chlercod i glywed am y syniadau a’r cynlluniau diweddaraf am yr heriau a’r cyfleoedd cynllunio sy’n wynebu ein cymunedau a’n trefi ar hyn o bryd.

Rydym yn ffodus i groesawu Cyngor Tref Penzance a fydd yn darparu astudiaeth enghreifftiol ddiddorol o’u gwaith ar Gynllun Bro ar gyfer eu cymuned. Byddwn hefyd yn croesawu astudiaethau enghreifftiol gan Gynghorau o Gymru ar eu Cynlluniau Bro. Bydd yr astudiaethau enghreifftiol hyn yn gwella eich dealltwriaeth o sut all y system gynllunio greu cyfleoedd adfywio hirhoedlog ac effeithiol gyda chefnogaeth cymunedau. 

Byddwn hefyd yn darparu nifer o ddiweddariadau cynllunio defnyddiol gan gynnwys:

  • Diweddariadau cyfreithiol (Bil Cynllunio (Cymru) arfaethedig a Deddf Seilwaith Cymru 2024)
  • Diweddariadau polisi cynllunio gan gynnwys cyngor ar lifogydd a niwtraliaeth maetholion.
  • Diweddariadau cynllunio strategol – Cynlluniau Datblygu Strategol yng Nghymru a sut fyddant yn effeithio ar eich ardal leol.

Fe fydd sesiwn hefyd lle y byddwn yn cynnig canllawiau i Gynghorau Cymuned a Thref wrth ymdrin â chais cynllunio mawr yn eu cymuned a sut orau i ymateb.

Bydd hwn yn ddigwyddiad llawn gwybodaeth i bawb sydd â diddordeb mewn Cynllunio, cynaliadwyedd, a mynd i’r afael â materion lleol. Fe fydd cyfle hefyd i gael trafodaeth agored rhwng yr holl gynrychiolwyr a siaradwyr,

Rydym yn gobeithio’n fawr am lefel record o bresenoldeb ac rydym yn eich annog chi i gymryd o leiaf un lle yn y digwyddiad anghysbell hwn.

Cliciwch ar y ddolen isod i archebu lle ar y digwyddiad hwn: