Tlodi Tanwydd a Lleoedd Cynnes - Un Llais Cymru
Mynd i'r cynnwys

Mae Cynghorau Cymuned a Thref mewn sefyllfa gref i gefnogi pobl leol trwy atebion lleol, ymarferol sy’n rhoi sylw i anghenion brys a gwytnwch ynni mwy hirdymor.

Gall cynghorau wneud gwahaniaeth gwirioneddol wrth fynd i’r afael â thlodi tanwydd, o greu lleoedd cynnes a chysylltu pobl gyda chymorth ar ynni yn y cartref, i weithio gyda chyrff cynghori lleol. Mae’r math hwn o ymateb lleol, trugarog yn gofalu fod pobl leol, a’r rhai sy’n wynebu’r risg fwyaf yn enwedig — fel pobl hŷn, teuluoedd, a phobl mewn cartrefi gwledig neu anodd eu gwresogi — yn cael yr help maen nhw ei angen gydag urddas.

Mae’r angen yn glir, mae costau ynni’n codi, incwm teuluol isel, a thai aneffeithlon yn golygu fod llawer o bobl yn ei chael yn anodd cadw’n gynnes ac iach. Mae tlodi tanwydd yn effeithio iechyd, llesiant, ac ansawdd bywyd. Mae’r dudalen hon yn cynnig canllawiau, dolenni ariannu, ac enghreifftiau o beth sy’n gweithio ledled Cymru i helpu cynghorau i weithredu, cysylltu cymunedau, a chefnogi’r sawl sydd mewn angen.

Adnoddau i Gynghorau

Cyfeirio at Gymorth – Ble i Gyfeirio Pobl Leol

Beth All Cynghorau Wneud

  • Sefydlu neu gefnogi Hybiau Cynnes mewn lleoliadau hygyrch fel canolfannau cymunedol neu neuaddau pentref, a gofalu fod ganddynt wres, seddi, cyfleusterau cegin, tai bach, a’u bod yn gwbl hygyrch i bawb, gan gynnwys pobl ag anableddau.
  • Recriwtio a hyfforddi gwirfoddolwyr i helpu rhedeg yr hybiau a hybu ymgysylltu cymunedol, a phartneru gyda mudiadau fel  Cymru Gynnes i ddarparu cyngor ar ynni, cefnogaeth mewn argyfwng, a chysylltu pobl â gwasanaethau.
  • Cydlynu mentrau cefnogi ymarferol fel pecynnau gaeaf-gynnes, gwerthiant cotiau, neu sesiynau prydau poeth, a gwneud lleoedd cynnes yn groesawgar trwy drefnu gweithgareddau fel bingo, Gwau a Chlonc, Clybiau Digi, Coffi & Chacen, gemau bwrdd, clybiau llyfrau, crefftau, coginio, dosbarthiadau ymarfer, Sied Dynion, grwpiau rhiant & phlentyn, a chlybiau ffilm.
  • Defnyddio enwau cynhwysol fel “Ystafelloedd Byw Cymunedol” i leihau stigma ac annog pobl i gymryd rhan.
  • Hyrwyddo cyngor arbed ynni, cynlluniau llywodraeth, a grantiau i helpu pobl i dorri costau a gwella effeithlonrwydd ynni cartref,
  • Codi ymwybyddiaeth o hybiau cynnes a gwasanaethau trwy gyfryngau lleol, cyfryngau cymdeithasol, a rhwydweithiau cymunedol i sicrhau bod cymaint o bobl â phosib yn elwa.

Enghreifftiau o Gymru:

  • Rhwng Ionawr-Mawrth 2024 cefnogodd Cyngor Tref Prestatyn 1341 o bobl leol trwy ddarparu prydau am ddim mewn lle cynnes.
  • Llwyddodd Cyngor Cymuned Aberporth i gael arian gan Lywodraeth Cymru trwy CVA i redeg hwb cynnes gyda’r ganolfan lleol.
  • Mae Cyngor Cymuned Bedlinog & Threlewis yn cynnig Corneli Clud a gweithgareddau, bwyd twym, gwasanaethau cefnogi, a chludiant am ddim i hybiau cynnes.
  • Mae Cyngor Cymuned Llannon yn partneru gyda’r Ganolfan Deuluoedd i gynnig lle diogel i deuluoedd.

Gwybodaeth am Ariannu & Chyfleoedd Posib

There are several sources of funding available to support local responses to fuel poverty and warm spaces:

Cysylltwch

Os yw eich cyngor yn gweithio i fynd i’r afael â thlodi tanwydd, neu eisiau help i roi cychwyn ar bethau, cofiwch gysylltu.

Ebost: [email protected]
Ymunwch â’r Sgwrs: Argyfwng Costau Byw – Grŵp Facebook