Cydraddoldeb ac Amrywiaeth - Un Llais Cymru
Mynd i'r cynnwys

Fel rhan o’n hymrwymiad i helpu Cynghorau Cymuned a Thref ledled Cymru i hyrwyddo cydraddoldeb, cynhwysiant a chymunedau mwy diogel, cynhaliwyd gweminar gyda Chyngor Tref Hwlffordd yn ddiweddar yn arddangos eu Cynllun Gweithredu Gwrth-Hiliaeth. Archwiliodd y sesiwn eu camau ymarferol, eu heriau a’u llwyddiannau wrth ddatblygu newid ystyrlon a chynaliadwy.

Rydym wedi cynnwys amrywiaeth o adnoddau isod, gan gynnwys canllaw Cynllun Gweithredu Gwrth-Hiliaeth sy’n llawn gwybodaeth ymarferol, dolenni defnyddiol, a chamau clir y gall Cynghorau eu cymryd i ymgorffori arfer gwrth-hiliol yn lleol. Mae’r deunyddiau hyn wedi’u cynllunio i helpu Cynghorau i feithrin hyder, cryfhau arfer cynhwysol, a chymryd camau ystyrlon a chyraeddadwy tuag at gymunedau tecach a mwy croesawgar ledled Cymru.

Hysbysiad o Gynnig ynghylch Cynllun Gweithredu Gwrth-Hiliol Cyngor Sir Penfro

Cynnig Gwrth-Hiliol Cyngor Tref Hwlffordd – Cyfarfod Pwyllgor PPF ar 6 Mehefin 2024

Cynllun Gweithredu Atal Hiliaeth Cymru: Pecyn Adnoddau


Rydym wedi cynhyrchu Nodyn Datblygu Ymarfer ar y pwerau sydd ar gael i Gynghorau. Edrychwch ar adran 3.2 o Nodyn Datblygu Ymarfer 6 am gyngor pwysig ynghylch defnyddio’r pwerau cywir. Gofynnwch i’ch Swyddog Datblygu lleol am gyngor pellach.