Digwyddiadau a Chyfleoedd Bioamrywiaeth - Un Llais Cymru
Mynd i'r cynnwys

Digwyddiadau a Chyfleoedd Bioamrywiaeth

Rydym yn gyffrous i rannu manylion y digwyddiad Powys Gwydn sy’n cael ei gynnal ar:
7.2.26
10am – 4pm
Neuadd Cymunedol Tref-Y-Clawdd a’r Cylch

Bydd Rachel o’n tîm Bioamrywiaeth yn bresennol trwy gydol y dydd ac ar gael i ateb eich holl gwestiynau sy’n gysylltiedig â bioamrywiaeth!

Bydd Rachel hefyd yn cynnal Gweithdy yn ystod y prynhawn i helpu Cynghorau i gyflawni eu Cynlluniau Gweithredu Bioamrywiaeth

Peidiwch â cholli’r cyfle gwych hwn i ddod i ddarganfod sut y gall eich Cyngor weithredu dros Natur a’r Hinsawdd yn 2026!

Gweler yr agenda lawn, a chliciwch y ddolen isod i archebu eich lle am ddim:

Archebwch eich lle am ddim nawr

Digwyddiadau Blaenorol


RSPB Gwylio Adar Yr Ardd 2026

Dydd Gwener 23 – Dydd Sul 25 Ionawr 2026

Mae’r arolwg mwyaf yn y byd o fywyd gwyllt yr ardd yn ei ôl, a byddem wrth ein bodd petaech chi’n cymryd rhan! Dros un penwythnos ym mis Ionawr, bydd cannoedd ar filoedd o bobl sydd wrth eu bodd â byd natur yn dod at ei gilydd i gyfrif yr adar maen nhw’n gallu eu gweld yn eu gerddi, eu balconïau, eu hiardiau a’u parciau. Mae’n hwyl, yn rhad ac am ddim ac yn ffordd wych o gysylltu â byd natur.

Beth am annog  eich cymuned i gymryd rhan, darparu neu rannu copïau o’r taflenni gofnodi a chanllaw adnabod, neu falle trefnu digwyddiad yn eich gofod gwyrdd lleol?

Gallwch Lawrlwytho copi o’r canllaw a siart cyfrif swyddogol yma:

Eich Canllaw a Siart Cyfrif (Dogfen ddwyieithog)

Bydd yn ei gymryd 1 awr yn unig a gellir ei gwblhau unrhyw amser dros benwythnos y digwyddiad.

Cofrestrwch

Mwy o wybodaeth

FAQs

Gwyliwch y fideo

Gall Ysgolion yn  cymryd rhan hefyd, felly beth am anfonwch y ddolen hon i’ch ysgolion lleol? Digwyddiad Gwylio Adar Yr Ysgol 2026