Gwasanaeth
Diwrnod Myfyrdod Cenedlaethol Covid-19
Beth yw’r Diwrnod Myfyrdod
Mae’r Diwrnod Myfyrdod Cenedlaethol yn foment i oedi, cofio a chydnabod effaith pandemig COVID‑19 ar gymunedau ledled Cymru a gwledydd Prydain. Mae’n gyfle hefyd i gydnabod y gwaith tawel, cyson a helpodd cymunedau drwy’r cyfnod hwnnw, ac yn enwedig felly ymdrechion cynghorau cymuned a thref, clercod, cynghorwyr, a gwirfoddolwyr lleol a gefnogodd drigolion mewn cymaint o ffyrdd ymarferol a thosturiol.
Neges oddi wrth Un Llais Cymru
“Ar y Diwrnod Myfyrdod Cenedlaethol, mae Un Llais Cymru yn cyflwyno ei ddiolch diffuant i gynghorau cymuned a thref, clercod, cynghorwyr a gwirfoddolwyr ar draws Cymru. Gwnaeth eich presenoldeb pwyllog, arweinyddiaeth leol a gofal am eich cymunedau, yn aml y tu ôl i’r llenni ac o dan amgylchiadau anodd, wahaniaeth gwirioneddol. Mae’r diwrnod hwn yn cynnig moment i gydnabod y gyd-ymdrech honno ac i ddweud diolch.”
Lyn Cadwallader
Prif Weithredwr Un Llais Cymru
Ffyrdd dewisol o nodi’r diwrnod

Gallwch lawrlwytho copi o’r PDF yma
Myfyrdodau Cynghorau
”Yn ystod y pandemig, dechreuodd Cyngor Tref Tywyn a Bae Cinmel gefnogi Banc Bwyd yr Eglwys leol trwy gyfrannu bwyd yn rheolaidd er mwyn ymateb i’r anghenion taer a chynyddol yn y gymuned. Helpodd y gefnogaeth hon sicrhau bod pobl a theuluoedd bregus yn derbyn cyflenwadau bwyd hanfodol ar adeg pan roedd llawer yn unig, yn dioddef caledi ariannol, ac ansicrwydd”. Kath Evans, Dirprwy Glerc y Cyngor, Cyngor Tref Tywyn a Bae Cinmel”
”Fe wnaethon ni gychwyn cynllun talebau Popeth yn Yr Wyddgrug er mwyn cefnogi busnesau annibynnol, gan ychwanegu at ddigwyddiadau cymunedol ar-lein a chyda phellter cymdeithasol, gan gynnwys sgyrsiau Yr Wyddgrug Hanesyddol, cystadlaethau ac ymweliadau tymhorol gan Sion Corn a Bwni’r Pasg. Rydym yn falch o waith creadigol rhwydwaith o wirfoddolwyr a’r cyswllt â’r gymuned oedd wedi golygu fod pobl leol yn cadw cysylltiad, ac fe ddathlwyd cyflawniadau lleol ac fe gefnogwyd ein tref yn ystod cyfnod heriol”. Jo Lane, Clerc y Cyngor a Swyddog
”Gofalodd Cyngor TrefPencoed fod bwyd gan bobl leol. Fe fuon ni’n gweithio gyda siop leol ac roedd y cyngor yn dosbarthu nwyddau i 90 o deuluoedd bob wythnos. Roedd ein Maer yn paratoi parseli bwyd gyda bwyd a gyfrannwyd gan ei chymdogion a phobl leol ac roeddent yn cael eu dosbarthu i deuluoedd lleol. Fe weithion ni i sicrhau bod pawb yn cael bwyd neu help os oedden nhw eu hangen. Roedden ni’n falch o’r ffordd y daeth y gymuned at ei gilydd’’. Cyng Tracey Lyddon, Cyngor Tref Pencoed.
Myfyrdodau gweledol o’n cymunedau
Detholiad byr o ddelweddau a rannwyd gan gynghorau, sy’n adlewyrchu’r ffyrdd yr oedd cymunedau yn cefnogi ei gilydd yn ystod pandemig COVID-19.
Mwy o wybodaeth
Er mwyn cael gwybod mwy am yDiwrnod Myfyrdodewch i Gov.UK.Campaign