Gwasanaeth
Gwasanaethau Llesiant a Chefnogaeth

Mae Cynghorau Cymuned a Thref yn hollbwysig wrth fynd i’r afael â’r argyfwng costau byw – arwain gyda thrugaredd, cysylltu cymunedau, a darparu cefnogaeth lle y mae ei hangen fwyaf.
Mae’r dudalen hon yn cynnig canllawiau, dolenni ariannu, ac enghreifftiau o beth sy’n gweithio ledled Cymru i helpu cynghorau i weithredu, cysylltu cymunedau, a chefnogi pobl mewn angen. Os ydych yn cychwyn rhywbeth newydd neu’n adeiladu ar waith sy’n bod yn barod, gall yr adnoddau hyn eich helpu i wneud gwahaniaeth gwirioneddol.
Archwiliwch syniadau, astudiaethau enghreifftiol, a dolenni ariannu i’ch helpu i gynnig cefnogaeth effeithiol – o hybiau cynnes a chymorth bwyd i wasanaethau iechyd meddwl a chynhwysiant digidol, gallwch ddarganfod sut allwch helpu gwella llesiant yn eich cymuned.
Adnoddau i Gynghorau
- Astudiaeth Achos Cyngor Tref Blaenafon
- Astudiaeth Achos Cyngor Tref Prestatyn
- Astudiaeth Achos Cyngor Cymuned y Mwmbwls
- Astudiaeth Enghreifftiol Cyngor Cymuned Parc Caia
- Astudiaeth Enghreifftiol Cyngor Tref Caernarfon
- Sut mae Cynghorau Cymuned a Thref yn Cefnogi Cynhwysiant Digidol?
- Astudiaeth Enghreifftiol Cyngor Tref Y Trallwngy
- Astudiaeth Enghreifftiol Clwb Cinio Dros 50 Cyngor Cymuned Llannon
- Cyngor Tref Blaenafon – Clwb Ffilm Cyfeillio
- Cyngor Tref Prestatyn – Hybiau Cynnes
- ‘The Singing Strummmers’ – Cyngor Tref Prestatyn
- Cyngor Cymuned y Mwmbwls – Diwrnodau Hwyl i’r Teulu
- Gwener Cymunedol Cwmaman – Cyngor Tref Cwmaman
- Cyngor Tref Pen-bre & Phorth Tywyn Pryd ar Glud
- Astudiaeth Enghreifftiol Cyngor Tref Y Trallwng
Cysylltwch â’r tîm yn [email protected] os hoffech inni ddanfon copïau atoch o unrhyw un o’r adnoddau a drafodwyd yn y recordiadau.
Cyfeirio at Gymorth – Ble i Gyfeirio Pobl Leol
Helpwch bobl sy’n wynebu anniogeledd bwyd trwy eu cyfeirio at yr adnoddau cenedlaethol a lleol hyn:
- The Trussell Trust – Dewch o Hyd i Fanc Bwyd
- Cynllun Cychwyn Iach – cymorth i famau beichiog a mamau â phlant ifanc
- FareShare Cymru – Bwyd Dros Ben ar gyfer Elusennau
- Mind – Cynnal Llesiant
- Help gyda chostau byw – Cyngor ar Bopeth
- Y Samariaid
- Banciau bwyd lleol, oergelloedd a phantris cymunedol – Cysylltwch â’ch cyngor lleol
Beth All Cynghorau Wneud
- Sefydlu neu gefnogi hybiau cynnes – Lleoedd cynnes, croesawgar lle y gall pobl gadw’n gynnes, cysylltu, a chael cyngor.
- Cefnogi mentrau bwyd – Cefnogwch fanciau bwyd, oergelloedd cymunedol, a chynlluniau prydau cost isel neu rhannu’r gost.
- Creu canolfan un alwad ar gyfer cefnogaeth – Darparwch fan canolog ar gyfer cyngor ar fudd-daliadau,cyfeirio pobl at help gyda thai, ynni, a dyledion.
- Cydweithio gyda sefydliadau lleol – Gweithiwch gyda chymdeithasau tai, byrddau iechyd, ac elusennau i gynnig sesiynau cynghori ar y cyd neu wasanaethau allestyn.
- Cefnogi Siediau Dynion a grwpiau lleol – Talwch am leoedd sy’n lleihau unigrwydd ac yn hyrwyddo llesiant trwy weithgareddau a rennir.
- Gwella mynediad digidol – Cynigiwch Wi-Fi cyhoeddus, benthyca peiriannau, neu sgiliau TG sylfaenol i helpu pobl i fynd ar-lein.
- Galluogi mwy o bobl i dderbyn gwasanaethau hanfodol – Cefnogwch drafnidiaeth gymunedol a gwasanaethau allestyn symudol ar gyfer pobl mewn ardaloedd anghysbell.
- Hyrwyddo cyngor ymarferol – Rhannwch awgrymiadau clir, ymarferol ar gyllidebu, arbed ynni, a chynigion lleol trwy gylchlythyron a hysbysfyrddau lleol.
Enghreifftiau o Gymru:
- Mae Cyngor Tref Prestatyn yn cynnig sesiwn llesiant o’r enw ‘The Singing Strummers’ mewn Partneriaeth â MIND.
- Mae Cyngor Tref Blaenafon yn cynnal y clwb Ffilm Cyfeillio er mwyn dod â phobl sydd yn gymdeithasol unig at ei gilydd.
- Cynhaliodd Cyngor Cymuned Y Mwmbwls Ddiwrnod Hwyl i’r Teulu i ddod â’r gymuned at ei gilydd ac fe gynigiwyd bwyd am ddim.
- Cafodd Cyngor Tref Gorseinon arian ar gyfer rhaglen goginio.
Gwybodaeth am Ariannu & Chyfleoedd Posib
- Waterloo Foundation
- WCVA – Dewch o hyd i arian i’ch mudiad
- Sut i wneud cais — The Moondance Foundation
- Sefydliad Cymunedol Cymru
- Arian i Bawb Y Loteri Genedlaethol – Cymru
- Lloyds Bank Foundation
- Cronfa Gymunedol Dŵr Cymru
- Cyngor Celfyddydau Cymru – Rhaglen Creu
- Cronfa Cymunedau Eryri
- Sefydliad Cymunedol Cymru
- Teclyn Chwilio Cyllid Cymru
Cysylltwch
Eisiau rhannu beth mae eich cyngor yn wneud neu ofyn am gefnogaeth?
Ebost: [email protected]
Ymunwch â’r Sgwrs: Argyfwng Costau Byw – Grŵp Facebook