Hyfforddiant a Gweminarau Bioamrywiaeth
Mae uwchsgilio a hyfforddiant rheolaidd yn hanfodol ar gyfer Cynghorau effeithiol. Mae angen i bob Cynghorydd fod yn ymwybodol o bwysigrwydd bioamrywiaeth a’u dyletswydd o dan Adran 6. Er mwyn helpu eich Cyngor i ddatblygu’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen, rydym yn cynnal gweminarau a sesiynau hyfforddi rheolaidd.
Modiwlau Hyfforddi
Rydym yn cynnig 3 modiwl sy’n benodol i fioamrywiaeth fel rhan o’n dewislen hyfforddi yn Un Llais Cymru. Cyflwynir y rhain gan ein tîm o Gysylltiedigion Hyfforddi rhagorol. Mae’r cyrsiau hyn yn boblogaidd iawn felly archebwch nawr!
Gweler ein tudalennau hyfforddi am ragor o wybodaeth a manylion sut i archebu.
Modiwl 25 a 26
Hanfodion Bioamrywiaeth Rhan 1 a 2: mae hwn yn gwrs 2 ran sy’n dysgu hanfodion bioamrywiaeth, adfer natur ac ecoleg, yr angen i wneud penderfyniadau da a Chynlluniau Gweithredu Bioamrywiaeth (CGB) effeithiol i Gynghorau. Mae’n dilyn yr un ‘5 piler bioamrywiaeth’ ag a gyflwynwyd yn y ddogfen ganllaw. Ar ôl mynychu’r cwrs hwn, bydd Cynghorau mewn gwell sefyllfa i ysgrifennu Cynlluniau Gweithredu Bioamrywiaeth ac Adroddiadau Adran 6 cadarn, i fodloni’r ddyletswydd Adran 6 honno o ran bioamrywiaeth a chydnerthedd ecosystemau. Cynhyrchwyd mewn partneriaeth â Cynnal Cymru.

Modiwl 27
Rheoli Prosiectau Natur – Cwrs a gyflwynir dros 1 sesiwn sy’n dangos hanfodion rheoli prosiect yng nghyd-destun prosiectau natur ac amgylcheddol. Bydd taflenni’n cynnwys rhestr wirio prosiectau i Gynghorau i’w helpu i reoli prosiectau yn unol ag egwyddorion Bioamrywiaeth, ar amser ac o fewn y gyllideb. Y gobaith yw y bydd pob Cyngor sy’n mynychu’r cwrs hwn eisoes wedi mynychu’r Cwrs Hanfodion Bioamrywiaeth yn gyntaf. Cynhyrchwyd mewn partneriaeth â Catrin Evans Consultancy.

Gweminarau
Rydym yn rhedeg gweminarau ar nifer o destunau gwahanol. Edrychwch nol yn aml am ein digwyddiadau mwyaf diweddar.
Gweithdai Adran 6 – Un Llais Cymru
Yn dilyn ein cyfres lwyddiannus o weminarau Adran 6 ym mis Ebrill rydym yn awr yn cynnig cyfle i’ch Cyngor fynychu un o’n gweithdai ysgrifennu Adroddiad Adran 6. Byddwn yn cynnal chwe gweithdy dros gyfnod o 3 wythnos, a byddant yn cael eu cynnal ar-lein trwy Zoom.
Yn ystod pob gweithdy ar-lein bydd Cynghorau yn cael cyfle i ofyn cwestiynau, rhannu arfer gorau a gweithio gyda’n Swyddogion Bioamrywiaeth ar eu Hadroddiadau Adran 6 eu hunain.
Trwy weithio mewn grwpiau bychain byddwn yn trafod camau all gyfrannu at bob amcan ac yn eich helpu i gwblhau adroddiad diddorol a chynhwysfawr.
Uchafswm o 20 Cyngor fydd yn gallu mynychu pob gweithdy, fel y gall pob Cyngor gael y gorau allan o’r sesiwn.
Mae croeso i ddau aelod o bob Cyngor fynychu’r un gweithdy.
Dylech fynychu un gweithdy fesul Cyngor yn unig. Bydd hyn yn golygu y gall cymaint o Gynghorau â phosib fynychu’r gweithdai.
Er mwyn archebu lle ar un o’r gweithdai dylech wasgu isod:
Gweithdai Ar-lein – Adroddiadau Adran 6
Dydd Mawrth 28.10.25 @6.30pm – 8pm
Dydd Mercher 29.10.25 @6.30pm – 8pm
Dydd Iau 30.10.25 @10am – 11.30am
Dydd Llun 3.11.25 @10am – 11.30am
Dydd Mawrth 4.11.25 @6.30pm – 8pm
Dydd Iau 13.11.25 @1pm – 2.30pm
Bydd hyn yn agor ffurflen gofrestru fer, ac wedi ichi lenwi’r ffurflen hon bydd dolen y cyfarfod yn cael ei danfon atoch yn syth trwy ebost.
Ysgrifennwch eich cyfeiriad ebost yn ofalus neu efallai na fyddwch yn derbyn y ddolen.
Gweminarau Cadwch Gymru’n Daclus
Yn Galw ar bob Cyngor Cymuned a Thref yng Nghymru!
Mae’n bleser gan yr elusen amgylcheddol, Cadwch Gymru’n Daclus, eich gwahodd i ddwy weminar wedi eu cynllunio i’ch helpu i wella eich amgylchedd a’ch cymuned leol.
Mae’r rhain yn gyfleoedd gwych i glywed gan gyd-gynghorau cymuned, cael eich ysbrydoli gan eu prosiectau llwyddiannus, cael mewnwelediad gwerthfawr, rhannu profiadau, a chael atebion i’ch cwestiynau.
Gweminar Gofod Gwyrdd a Bioamrywiaeth
Dyddiad: Dydd Iau 23 Hydref 2025
Amser: 10:30am – 12:00pm
Mae’r weminar hon ar gyfer cynghorau sydd eisiau rhoi hwb i fioamrywiaeth lleol a gwella eu mannau gwyrdd. Byddwn yn cynnwys:
Y cynllun Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, sydd yn cynnwys pecynnau gardd am ddim a chymorth i greu a gwella gofod natur.
Gwobr y Faner Werdd, meincnod ar gyfer parciau a gofod gwyrdd.
Gwasanaethau contract Cadwch Gymru’n Daclus ar gyfer rheoli a gwella ardaloedd awyr agored ar gyfer natur a lles.
Gweminar Ansawdd Amgylcheddol Lleol
Pryd: Dydd Mercher 5 Tachwedd 2025
Amser: 10:30am – 12:00pm
Mae’r sesiwn hon ar gyfer cynghorau sydd eisiau mynd i’r afael â materion ansawdd amgylcheddol allweddol. Bydd y pynciau’n cynnwys:
Trefnu a chefnogi gweithgareddau codi sbwriel cymunedol.
Diweddariadau polisi sbwriel yn cynnwys y Cynllun Dychwelyd Ernes i ddod.
Rheoli a gwella ‘binfrastructure’ (lleoli strategol a’r math o finiau).
Ffyrdd effeithiol o fynd i’r afael â baw cŵn a diweddariadau ar ymgyrch Cadwch Gymru’n Daclus 2025/26.
Gwasanaethau contract Cadwch Gymru’n Daclus i fynd i’r afael â sbwriel a gwastraff
Mae’r ddwy weminar am ddim a byddant yn darparu gwybodaeth werthfawr y gellir gweithredu arni ar gyfer eich cyngor.
Gallwch gofrestru ar gyfer gweminarau hyn trwy wasgu ar eich dewis teitl yma:
Gweminar Gofod Gwyrdd a Bioamrywiaeth
Dyddiad: Dydd Iau 23 Hydref 2025
Amser: 10:30am – 12:00pm
Gweminar Ansawdd Amgylcheddol Lleol
Pryd: Dydd Mercher 5 Tachwedd 2025
Amser: 10:30am – 12:00pm
Bydd gwasgu ar y dyddiad yn agor ffurflen gofrestru fer, ac wedi ichi lenwi’r ffurflen hon bydd dolen y cyfarfod yn cael ei danfon atoch yn syth trwy ebost.
Ysgrifennwch eich cyfeiriad ebost yn ofalus neu ni fyddwch yn derbyn y ddolen.