
Lleoedd Lleol ar gyfer Natur
Dyma’r rhaglen cyllid cyfalaf a sefydlwyd yn 2020 gan Lywodraeth Cymru i helpu i ‘atal a gwrthdroi dirywiad bioamrywiaeth’ yng Nghymru. O dan Adran 6 Deddf yr Amgylchedd 2016 mae gan bob corff cyhoeddus ddyletswydd statudol i adrodd ar sut maent yn cynnal a gwella bioamrywiaeth. Rydym am weld pob un o’n haelod gynghorau yn cymryd rhan ac yn annog eu cymuned i gymryd rhan yn y cynllun cyffrous hwn.
Fel Cynghorau Cymuned a Thref rydych mewn sefyllfa dda i ddatblygu lles amgylcheddol yr ardaloedd yr ydych yn eu gwasanaethu, ac mae Un Llais Cymru mewn sefyllfa unigryw i’ch helpu i gyflwyno’r rhaglen lleoedd lleol ar gyfer natur.
Mae Llywodraeth Cymru wedi datgan argyfwng hinsawdd ac wedi rhoi cynllun adfer natur ar waith. Rydym am helpu ein cynghorau i gymryd rhan mewn creu ‘Natur ar garreg y drws’ ar gyfer eich cymunedau a gadael etifeddiaeth ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Roedd ein profiadau a rennir yn ystod y pandemig Covid wedi tynnu sylw at bwysigrwydd natur a mannau gwyrdd yn ein cymunedau a rôl hanfodol cyrff democrataidd lleol fel eich un chi.
Mae amryw o ffynonellau cyllid ar gael o dan y rhaglen hon a fydd yn rhoi cyfle i chi weithredu prosiectau i gynyddu bioamrywiaeth a newid eich cymunedau ar gyfer y dyfodol.
Gall Tîm Bioamrywiaeth Un Llais Cymru helpu pob Cyngor Cymuned a Thref i hwyluso’r mathau hyn o brosiectau. Ni fydd eich pwynt cyswllt arbenigol; o gynhyrchu’r syniadau cychwynnol, cael ymgysylltiad cymunedol, gwneud cais llwyddiannus am arian cyfalaf a sefydlu a chynnal y prosiectau.
Lleoedd Lleol ar gyfer Natur 2025-2027
Pecynnau Bioamrywiaeth Un Llais Cymru
Rydym yn gyffrous iawn i gyflwyno detholiad o becynnau bioamrywiaeth newydd ar gyfer 2025. Gweler yr holl becynnau yma.
Mae’r pecynnau yma wedi’u dylunio i ddarparu’r adnoddau sydd angen ar eich cyngor i gynyddu bioamrywiaeth. Mae’r ffurflen cais yn syml ac, os ydych yn llwyddiannus, fyddem ni’n darparu’r deunyddiau a’u dosbarthu i’r safle ar ddiwrnod cyfleus, a hefyd gallem helpu efo’r gosodiad. Y gyd sydd angen wrthoch chi yw gwirfoddolwyr bodlon.
Dyma’r broses ymgeisio:

Pecynnau Cadwch Gymru’n Daclus
Mae Cadwch Gymru’n Daclus yn cynnig amrywiaeth o becynnau gardd am ddim. Os yw eich Cyngor am ymgeisio am un o’r pecynnau hyn, cysylltwch â ni yn y lle cyntaf i drafod eich anghenion a’ch gofynion. Gallwn gynnig cefnogaeth a chyngor ar y broses ymgeisio i sicrhau bod gan eich Cyngor y cyfle gorau i lwyddo.
Partneriaethau Natur Lleol
Bydd gan eich Partneriaeth Natur Leol cyllid cymorthdalu i Gyngorhau Cymuned a Thref. Mae hyn yn newid rhwng partneriaethau. Byddem yn eich diweddaru ar gymorthdaliadau a gallem eich cynghori o unrhyw gyllid am brosiectau.
Lleoedd Lleol ar gyfer Natur 2020-2025
Rhwng 2020 a 2025, trefnwyd y rhaglen 5 mlynedd i’r 5 prif faes a ddangosir isod:

Mae’r sector Cynghorau Cymuned a Thref wedi cyfrannu’n sylweddol at gyflawni amcanion y rhaglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur. Ers 2020 mae’r sector wedi cyrchu dros £1.5miliwn o’r cyllid cyfalaf, wedi gosod mwy na 400 o becynnau Cadwch Gymru’n Daclus ac wedi gweithio gyda’u Partneriaethau Natur Lleol i greu, gwella ac adfer bioamrywiaeth a darparu byd natur ar garreg y drws i’w cymunedau.
Mae’r map isod yn dangos lleoliad yr holl brosiectau sy’n cael eu darparu gan Gynghorau Cymuned a Thref:
Map Google o Brosiectau Cyngor
Dyma ddetholiad bach o’r prosiectau Lleoedd Lleol ar gyfer Natur a gwblhawyd yn llwyddiannus. Gallwch glicio ar bob un i ddarllen rhagor am y prosiectau:
2020 – 2021: Cyngor Tref Cricieth / Cyngor Tref Llandrindod /
Cyngor Tref Cwmaman, Cyngor Cymuned Llanon a Chyngor Cymuned Llanedi
2021 – 22: Cyngor Tref Pontypridd / Cyngor Cymuned Betws
2022 – 23: Cyngor Tref Llanelli / Cyngor Gwledig Llanelli
Dyma’r prosiectau diweddaraf sydd ar y gweill ar hyn o bryd:
2023 – 2025: Dyfarnwyd cyllid yn llwyddiannus i wyth prosiect ac mae pump o’r rhain bellach wedi’u cwblhau, gyda’r tri sy’n weddill i’w cwblhau erbyn Awst 31ain 2025.
Y Cynghorau llwyddiannus oedd:
- Cyngor Tref Bae Colwyn
- Cyngor Tref Cil-y-Coed
- Cyngor Cymuned Llanedi
- Cyngor Tref Llanilltud Fawr
- Cyngor Tref Machynlleth
- Cyngor Cymuned y Mwmbwls
- Cyngor Tref Pen-bre a Phorth Tywyn
- Cyngor Cymuned Pennard
Gweler yr Astudiaethau Achos isod:
- Cyngor Tref Bae Colwyn
- Cyngor Tref Cil-y-Coed
- Cyngor Cymuned Llanedi
- Cyngor Tref Llanilltud Fawr
- Cyngor Tref Machynlleth
- Cyngor Cymuned y Mwmbwls
- Cyngor Tref Pen-bre a Phorth Tywyn
- Cyngor Cymuned Pennard
I ddarganfod mwy am y rhaglen, gallwch weld y fideo isod a ddangoswyd yn nigwyddiad Arddangos y Senedd ar 29.11.24.
Digwyddiad Arddangos y Senedd 2024
Ar ddydd Mercher 27 Tachwedd 2024, cynhaliodd Un Llais Cymru arddangosfa lwyddiannus iawn yn adeilad Y Senedd ym Mae Caerdydd.

Hoffai Un Llais Cymru ddiolch i Carolyn Thomas MS am ei nawdd caredig a’i chefnogaeth i’r digwyddiad. Roedd yn wych cael arddangos Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, a thrafodwyd y digwyddiad yn ystod Cwestiynau’r Prif Weinidog yn y siambr y diwrnod cynt. Diolch i Carolyn a’r Prif Weinidog am gynrychiolaeth mor gadarnhaol.

Roedd yn gyfle unigryw i aelodau’r Senedd, partneriaid y rhaglen ac aelodau’r cyhoedd weld detholiad o brosiectau llwyddiannus Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, a siarad â’r gwirfoddolwyr a gymerodd ran.
Nod y digwyddiad oedd arddangos cyfraniad anhygoel Cynghorau Cymuned a Thref ledled Cymru i raglen ariannu Lleoedd Lleol ar gyfer Natur.
Roedd saith arddangosfa yn cael eu harddangos gan y Cynghorau canlynol:
- Cyngor Cymuned Betws
- Cyngor Tref Criccieth
- Cyngor Cymuned Hirwaun a Phenderyn
- Cyngor Cymuned Johnston
- Cyngor Tref Llandrindod
- Cyngor Tref Cwmaman, gyda Chyngor Cymuned Llanedi a Chyngor Cymuned Llannon
- Cyngor Tref Pontypridd
Roedd arddangosfa Un Llais Cymru yn arddangos llawer o brosiectau llwyddiannus eraill a’r rhai sydd ar y gweill ar hyn o bryd. Roedd hefyd yn gyfle i ddysgu am y rôl ehangach y mae Un Llais Cymru yn ei chwarae wrth yrru’r agenda Bioamrywiaeth o fewn y sector Cynghorau Cymuned a Thref trwy ein Swyddog Lleoedd Lleol ar gyfer Natur. Hoffem ddiolch yn fawr iawn i bawb a helpodd i baratoi a chyflwyno’r digwyddiad hwn, ac i bawb a ddaeth draw i’n cefnogi ar y diwrnod.
Edrychwch ar y fideos ar ein sianel YouTube a ddangosir isod.
Roedd y fideo hwn yn cael ei chwarae ar y sgriniau trwy gydol y digwyddiad, sy’n cynnwys llawer o wybodaeth am raglen ariannu Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, yn ogystal â fideos o rai o’r prosiectau a digwyddiadau eraill Un Llais Cymru:
Fideo yn dangos uchafbwyntiau’r digwyddiad:
Y drafodaeth yng Nghwestiynau’r Prif Weinidog 26.11.24: