Maniffesto - Un Llais Cymru
Mynd i'r cynnwys

Maniffesto

Yn Un Llais Cymru rydym yn cynhyrchu maniffesto sy’n nodi ein hymrwymiad i ddatblygu Cynghorau Cymuned a Thref a chefnogi eu gwaith.

Pwysleisiwn bwysigrwydd democratiaeth leol a phwysleisiwn ein gweledigaeth o sut y gellid darparu gwell gwasanaethau gyda phobl leol.

Rydym yn cyflwyno syniadau polisi i ddatgloi pŵer a photensial cymunedau.

Mae angen i gyrff cyhoeddus fod yn fwy ymatebol i anghenion lleol. Gall ymgysylltu agosach â Chynghorau Cymuned a Thref helpu i greu mwy o ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o anghenion a gofynion lleol.

Mae ymrwymiadau ein maniffesto yn egluro’r heriau a’r cyfleoedd sy’n deillio o’r pwysau i ddarparu mwy o wasanaethau’n lleol ac ymateb i ddisgwyliadau cynyddol cwsmeriaid. Ond mae’n rhaid darparu’r pwerau, y trefniadau llywodraethu a’r adnoddau i Gynghorau Cymuned a Thref i ddarparu set hyblyg o wasanaethau i gwrdd â’r heriau cynyddol hyn.

Lansiwyd ein maniffesto diweddaraf ar 5 Mawrth 2026 i baratoi ar gyfer etholiadau’r Senedd sydd ar ddod, ac mae ar gael isod.

Rydym hefyd yn gweithio gyda phartneriaid fel y Sefydliad Materion Cymreig (IWA) i herio, ysbrydoli a llywio newid, gan wneud Cymru yn lle gwell i fyw a gweithio i bawb. Mae’r IWA yn annibynnol ar y llywodraeth a phleidiau gwleidyddol. Isod mae eu Siarter Lleoedd y gwnaethom helpu i’w datblygu:

Siarter Lleoedd (IWA)