Gwasanaeth
Manteision

Ledled Cymru, mae llawer o bobl yn wynebu caledi ariannol go iawn. Wrth i gostau byw godi, incymau’n lleihau, a rhwystrau fel eithrio digidol, mae mwy o bobl yn ei chael yn anodd cael dau pen llinyn ynghyd. Mae Cynghorau Cymuned a Thref mewn sefyllfa gref i helpu—gan gynnig cymorth lleol, dibynadwy lle y mae ei angen fwyaf.
Mae 94% o bobl yng Nghymru wedi gweld eu costau byw yn codi.
Mae 3 aelwyd o bob 5 wedi torri ar hanfodion fel gwresogi a bwyd.
Mae dros hanner oedolion ifanc wedi troi at fanciau bwyd.
Gall cynghorau wneud gwahaniaeth gwirioneddol trwy helpu pobl leol i gael y budd-daliadau mae ganddynt hawl eu cael, gan gynnig arweiniad, a’u cysylltu gyda gwasanaethau cymorth hollbwysig. Mae’r dudalen hon yn cynnig canllawiau, dolenni ariannu, ac enghreifftiau o beth sy’n gweithio ledled Cymru i helpu cynghorau i weithredu, cysylltu cymunedau, a chefnogi pobl mewn angen.
Adnoddau i Gynghorau
- Guide to Advice & Benefits Support – practical tips for councils, coming soon
- Arweiniad i Ymgysylltu & Gwasanaethau Ar Gyfer Pobl Hŷn
- Gweithio gyda Phartneriaid
- Arweiniad i Gynhwysiant & Chefnogaeth Ddigidol
- Arweiniad ar Fynd i’r Afael â Thlodi Bwyd i Gynghorau
Cysylltwch â’r tîm yn [email protected] os hoffech inni ddanfon copïau atoch o unrhyw un o’r adnoddau a drafodwyd yn y recordiadau.
Cyfeirio at Gymorth – Ble i Gyfeirio Pobl Leol
- Cyfrwyso buddion a argymhellir: Turn2Us, EntitledTo, HelpwrArian
- Hwb Cefnogaeth Costau Byw Llywodraeth Cymru – gwybodaeth am gefnogaeth a chyngor i helpu wrth i gostau byw godi
- Gofal & Thrwsio Cymru – Help i bobl hŷn fyw’n annibynnol a diogel
- Cymunedau Digidol Cymru– Hyfforddiant rhad ac am ddim ar gynhwysiant digidol
- Gwirfoddoli Cymru – Hyrwyddo neu ddod o hyd i gyfleoedd gwirfoddoli
- Cyngor Budd-daliadau Age Cymru – Cefnogaeth gyda budd-daliadau a hawliau
Beth All Cynghorau Wneud
- Cynnal sesiynau galw heibio neu hybiau unnos
- Cynnig cyswllt Wi-Fi am ddim a mynediad at offerynnau ar-lein.
- Argraffu ac arddangos posteri neu arweiniadau gwybodaeth er budd a chefnogi ymwybyddiaeth.
- Defnyddio praeseptau i dalu am wasanaethau cynghori (gweler enghraifft Cyngor Cymuned Parc Caia).
Enghreifftiau o Gymru:
- Cyngor Cymuned Parc Caia – Canolfan gynghori bwrpasol, llwyddiant hirdymor.
- Cyngor Cymuned Y Mwmbwls – Cynnig cymorth mewn awyrgylch anffurfiol caffi.
- Cyngor Tref Cwmaman – Hybiau un alwad wedi’u darparu gan bartneriaid.
Gwybodaeth am Ariannu & Chyfleoedd Posib
- Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol – Cymru – ariannu prosiectau cymunedol.
- Cronfa Cymorth Arddewisol Llywodraeth Cymru – mae’n darparu 2 fath o grant nad ydych yn gorfod eu had-dalu.
- Cronfa Cefnogi Aelwydydd – cewch help gyda chostau hanfodol gan eich cyngor lleol.
Cysylltwch
Os yw eich cyngor yn gweithio i gefnogi pobl sy’n wynebu caledi ariannol – neu eisiau help i roi cychwyn arni, cofiwch gysylltu.
Ebost: [email protected]
Ymunwch â’r Sgwrs: Argyfwng Costau Byw – Grŵp Facebook