Mynd i’r Afael â Thlodi Bwyd a Diogeledd Bwyd - Un Llais Cymru
Mynd i'r cynnwys

Mae tlodi bwyd yn bryder cynyddol ar draws Cymru. Mae Cynghorau Cymuned a Thref mewn sefyllfa dda i gefnogi pobl leol trwy gynnig atebion ymarferol, lleol sy’n ymateb i anghenion ar y pryd a heriau hirdymor.

Gall cynghorau chwarae rôl rymus yn mynd i’r afael ag anniogeledd bwyd—trwy gefnogi prosiectau bwyd lleol, lleihau stigma, neu adeiladu partneriaethau sy’n gwella gallu pobl i gael bwyd da. Mae gweithredu lleol yn  gofalu fod pobl sy’n wynebu caledi yn cael eu trin gydag urddas, parch, ac yn cael cefnogaeth wirioneddol. Mae maint y mater yn frawychus: dosbarthwyd mwy na 3.1 miliwn o barseli bwyd argyfwng yng ngwledydd Prydain dros y flwyddyn ddiwethaf gan rwydwaith  Trussell Trust, ac aeth mwy nac 1.1 miliwn i blant. Yng Nghymru, mae 29% o blant yn byw mewn tlodi, ac mae bron i 1 aelwyd o bob 5 yn profi anniogeledd bwyd.

Mae’r dudalen hon yn cynnig canllawiau, dolenni ariannu, ac enghreifftiau o beth sy’n gweithio ledled Cymru i helpu cynghorau i ymateb yn effeithiol i’r anghenion cynyddol hyn.

Adnoddau i Gynghorau

Cysylltwch â’r tîm yn [email protected] os hoffech inni ddanfon copïau atoch o unrhyw un o’r adnoddau a drafodwyd yn y recordiadau.

Signposting Support – Where to Direct Residents

Help residents facing food insecurity by referring them to these national and local resources:

Beth All Cynghorau Wneud

  • Cefnogi neu drefnu oergelloedd cymunedol, pantris, neu fanciau bwyd
  • Partneru gydag elusennau, ysgolion, ac archfarchnadoedd lleol
  • Hyrwyddo prosiectau coginio iach a phrydau cost isel
  • Cychwyn neu gefnogi prosiectau tyfu (gerddi, rhandiroedd)
  • Lleihau stigma trwy ddefnyddio iaith gynhwysol a lleoedd croesawgar
  • Cynnwys pobl leol wrth gynllunio a chynnal prosiectau bwyd.

Enghreifftiau o Gymru:

  • Mae Cyngor Cymuned Llannon yn cynnal Clwb Cinio a Chlonc gyda thrafnidiaeth gymunedol
  • Mae Cyngor Tref Y Trallwng yn rheoli stondin bwyd dros ben ac yn tyfu llysiau gyda’r gwasanaeth prawf
  • Mae Cyngor Tref Cwmaman yn cynnig parseli bwyd wedi’r Nadolig
  • Mae Cyngor Tref Gorseinon wedi cael arian ar gyfer rhaglen goginio.

Gwybodaeth am Ariannu & Chyfleoedd Posib

Cysylltwch

Os yw eich cyngor yn gweithio ar brosiect bwyd—neu eisiau help i gychwyn un—cofiwch gysylltu.

Ebost: [email protected]
Ymunwch â’r Sgwrs: Argyfwng Costau Byw – Grŵp Facebook