Partneriaethau ac Ymgysylltu Cymunedol - Un Llais Cymru
Mynd i'r cynnwys

Mae Cynghorau Cymuned a Thref ar y rheng flaen, yn agosach at bobl leol nac unrhyw un arall, ac mae eich rôl yn hollbwysig yn ystod y cyfnod heriol hwn. Wrth i gostau bwyd, ynni, a thai godi, mae llawer o aelwydydd ledled Cymru yn ei chael yn anodd. Yn 2024, dywedodd 34% o bobl eu bod yn cael anhawster fforddio hanfodion bob dydd.

Ond nid oes rhaid ichi ei wneud ar eich pen eich hun. Pan mae cynghorau yn ymgysylltu o ddifrif â’u cymunedau a gweithio mewn partneriaeth gyda mudiadau gwirfoddol, awdurdodau lleol, grwpiau ffydd, ysgolion, a busnesau, daw newid go iawn yn bosib. Mae’r dull cydlynol hwn yn datgloi cyllid hanfodol, mae’n golygu eich bod yn cyrraedd ymhellach, ac mae’n creu atebion parhaol, cynaliadwy.

Mae ymgynghori go iawn yn gofalu fod lleisiau lleol yn siapio’r gwasanaethau a phenderfyniadau sy’n eu heffeithio fwyaf. Mewn cyfnodau fel y rhain, mae cydweithio ac ymgysylltu yn fwy nac arfer da—maen nhw’n hanfodol. Nhw yw’r gwahaniaeth rhwng goroesi a ffynnu. Gydag arweinyddiaeth gref, gall cynghorau droi caledi yn obaith—a helpu adeiladu Cymru gryfach, decach, a mwy gwydn i bawb.

Adnoddau i Gynghorau

Cyfeirio at Gymorth – Ble i Gyfeirio Pobl Leol

Beth All Cynghorau Wneud

  • Hybiau Cynnes & Lleoedd Cymunedol – Darparwch wres, prydau poeth, cyswllt cymdeithasol, a chefnogaeth
  • Mentrau Bwyd – Sefydlwch fanciau bwyd, pantris, neu oergelloedd cymunedol mewn partneriaeth â siopau lleol
  • Cyngor Ariannol & Atgyfeirio – Cysylltwch bobl leol gyda Chymdeithasau Gwasanaethau Gwirfoddol, Cyngor ar Bopeth, neu gymorth gyda budd-daliadau
  • Cefnogaeth i Bobl Hŷn – Cynhaliwch wasanaethau cyfeillio, sesiynau help digidol, neu drafnidiaeth gymunedol
  • Digwyddiadau â Phwrpas – Cynhaliwch ddigwyddiadau cymunedol cost isel neu am ddim sydd hefyd yn cynnig cefnogaeth ymarferol

Enghreifftiau o Gymru:

  • Mae Cyngor Tref Hwlffordd yn partneru gyda mwy na 15 o sefydliadau trydydd sector a busnes i ddarparu Prosiect Bwydo’r Gymuned, sy’n cynnig lle cynnes, prydau am ddim, gwasanaethau cefnogi, a thorri gwallt i bobl leol.
  • Mae Cyngor Tref Gorseinon yn partneru gydag archfarchnadoedd lleol a chigydd i ddarparu pecynnau bwyd Nadolig trwy eu prosiect Bwrdd Rhannu Bwyd.
  • Mae Cyngor Tref Cwmaman yn partneru gyda’r cyngor sir a chyrff cynghori i gefnogi pobl leol trwy eu menter Gwener y Gymuned.
  • Yn 2024, darparodd Cyngor Tref Blaenafon weithgareddau a digwyddiadau am ddim i fwy na 200 o bobl leol trwy bartneriaethau, gan gynnwys nofio, ffitrwydd, coginio a sesiynau cefnogi’r gymuned.

Gwybodaeth am Ariannu & Chyfleoedd Posib

Cysylltwch

Eisiau cymryd rhan, rhannu prosiect, neu ofyn am gefnogaeth? Rydyn ni yma i helpu.

Ebost: [email protected]
Ymunwch â’r Sgwrs: Argyfwng Costau Byw – Grŵp Facebook